Cyhoeddi dyddiadau Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2026
Bydd Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn dychwelyd ym mis Hydref gyda phythefnos o gigs, digwyddiadau a gosodweithiau fydd yn harneisio pŵer cerddoriaeth a pherfformio i uno ac ysbrydoli.
Y lluniau gorau wrth i Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2025 ddod i ben
Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd – dathliad pythefnos o gerddoriaeth a ddaeth â sêr byd-eang, arwyr lleol, talent newydd ffres a miloedd o gefnogwyr cerddoriaeth i leoliadau ledled y ddinas – wedi dod i ben ar ôl ail flwyddyn lwyddiannus.
YR ŴYL 2024 WEDI'I LAPIO...
Yn 2024, cynhaliwyd Gŵyl Dinas Gerdd gyntaf Caerdydd – a barhaodd am 24 diwrnod a chynnwys mwy na 200 o artistiaid ac 80 o ddigwyddiadau wedi’u gwasgaru ar draws 25 o leoliadau. Roedd y prosiect hwn yn fenter allweddol i gefnogi Strategaeth Cerddoriaeth Caerdydd a datblygiad cerddoriaeth yng Nghaerdydd, a lansiwyd yn swyddogol yn dilyn nifer o ddigwyddiadau cyffrous yn y misoedd cyn hynny.
Delweddau fideo o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2024 diolch i: Swn // Llais // Wales Millennium Centre // Gorwelion / Horizons / Beacons Cymru / Forte // Welcome To Wales // Welsh Music Prize / Gwobr Gerddoriaeth Gymreig // Mark James / Under Neon Loneliness // Ren Faulkner // Jamie Chapman // Pete Beckett // CULTVR // Orchard Media // On Par Productions
Bydd yr ŵyl arloesol yn cael ei chynnal o Ddydd Gwener 3 Hydref tan Ddydd Sadwrn 18 Hydref 2025, gan ddod â cherddorion, hyrwyddwyr ac arbenigwyr technoleg ymgolli oll ynghyd o bell ac agos i greu cydweithrediadau unigryw a digwyddiadau untro na ddylid eu colli.
Bydd artistiaid sefydledig, arwyr tanddaearol a sêr o Gymru yn llenwi rhaglen chwalu ffiniau rhwng genres cerddoriaeth, rhaglen sydd wedi’i chynllunio i gyffroi cynulleidfaoedd law yn llaw â seinweddau dinesig fydd wedi eu comisiynu yn arbennig, sgyrsiau ysbrydoledig, a sesiynau diwydiant.
Cefnogir gan Lywodraeth Cymru / Cyngor Caerdydd, bydd yr ŵyl yn cynnwys cyfres o berfformiadau unigryw, gigs a digwyddiadau annisgwyl yng nghanol prifddinas Cymru a hynny dros bymtheg diwrnod fydd yn llawn cerddoriaeth.
PEIDIWCH Â CHOLLI….
6 – 12 HYDREF 2025
Wythnos celfyddydau rhyngwladol Canolfan Mileniwm Cymru.
6 HYDREF 2025
Mae Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn dathlu’r gerddoriaeth orau a wneir yng Nghymru neu gan bobl Cymru ledled y byd.
8 HYDREF 2025
Bydd BBC Canwr y Byd Caerdydd yn dod ag amrywiaeth o gantorion o safon fyd-eang i ŵyl Llais ar gyfer Cyngerdd Gala arbennig iawn i ddathlu’r gystadleuaeth yma sy’n adnabyddus yn rhyngwladol.
16 – 18 HYDREF 2025
Yn barod i danio Stryd Womanby a thu hwnt gyda theithlen lawn i gariadon cerddoriaeth newydd.
“Charming, a little slept on and flecked with magic.” – The Guardian
16 – 17 HYDREF 2025
Byddwn yn cynnal trafodaethau, cyflwyniadau a sgyrsiau, yn ogystal â sesiynau grŵp a gweithdai gyda phartneriaid swyddogol yn y diwydiant. Bydd rhaglen Mentoriaid Sŵn yn dychwelyd, sef cyfle i fynychwyr a chynadleddwyr drafod y materion a’r heriau sy’n eu hwynebu nhw, gyda gwahoddedigion proffesiynol o’r diwydiant.
Gweler ein canllaw Beth sy' Mlaen am y rhaglen lawn...
CADWCH YN GYFOES
Strategaeth Gerdd Caerdydd 2025: Trosolwg
Gan Jude Rogers | Mae’r teimlad bod gan Gaerdydd ymrwymiad hirdymor i gerddoriaeth fel asiant ar gyfer cytgord ac fel catalydd ar gyfer newid yn ysbrydoledig – yn enwedig yn y cyfnod heriol hwn. Mae’r uchelgais hon, sydd wedi’i gwreiddio mewn creadigrwydd a chwilfrydedd lleol, hefyd yn anfon neges bwerus. “Ar ôl haf o artistiaid enwog, mae’n gyffrous iawn i bobl gael hydref o ddarganfyddiadau clos,” meddai Huw Stephens.
27 Apr 2026
Mae tocynnau ar gyfer Sŵn 2026 ar werth nawr!
21 Apr 2026
Caerdydd! Mae eich dyddiadau ar gyfer Sŵn 2026 wedi cyrraedd…
20 Apr 2026
Uwchgynhadledd Artist Ally | 27 Ebrill – 1 Mai 2026 | AR-LEIN
20 Apr 2026
'Codi Llais' yn codi’r to – prosiect canu nodedig ar draws y ddinas gyfan i bobl ifanc
CRYNHODEB: Cyhoeddi dyddiadau Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2025
Newyddion o lansiad 2025....
YR ŴYL 2024 WEDI'I LAPIO
Yn 2024, cynhaliwyd Gŵyl Dinas Gerdd gyntaf Caerdydd – a barhaodd am 24 diwrnod a chynnwys mwy na 200 o artistiaid ac 80 o ddigwyddiadau wedi’u gwasgaru ar draws 25 o leoliadau.
Cefnogir gan Lywodraeth Cymru / Cyngor Caerdydd