Llais yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru gyda pherfformiadau unigryw a lleisiau arbennig o bob cwr o’r byd fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd
Mae Gŵyl Llais yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru rhwng 7 ac 11 Hydref 2026, gan ddod ag artistiaid o fri rhyngwladol, cydweithrediadau unigryw a gigs unwaith mewn oes ynghyd fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.
Mae Llais, a fydd yn cymryd drosodd gofodau eiconig Canolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd, yn dod ag artistiaid o bob cwr o’r byd ynghyd ar gyfer cyfres o berfformiadau a fydd yn synnu, yn herio ac yn ysbrydoli. O arloeswyr cerddorol chwedlonol i leisiau newydd sy’n siapio sain yfory, mae’r ŵyl yn cynnig cyfle i gynulleidfaoedd ddarganfod artistiaid llai cyfarwydd.
Mae’r ŵyl, sydd wedi’i gwreiddio yn hunaniaeth Cymru fel Gwlad y Gân, yn dathlu pŵer y llais ym mhob un o’i ffurfiau – o ganu gwerin a gospel i sain arbrofol, perfformiadau cerddorfaol, adrodd straeon a thechnoleg ymdrochol.
Mae Llais wedi’i churadu fel wythnos o gyfarfyddiadau cerddorol rhyfeddol – gigs unigryw, cydweithrediadau annisgwyl ac artistiaid na welir yn aml mewn rhannau eraill o wledydd Prydain. Mae’n ŵyl sy’n seiliedig ar ddarganfyddiadau, gan wahodd cynulleidfaoedd i brofi lleisiau a pherfformiadau na fydden nhw’n dod ar eu traws fel arall.
Mae Llais, a fydd yn rhedeg rhwng 7 ac 11 Hydref, yn parhau i sicrhau Canolfan Mileniwm Cymru fel cartref ar gyfer perfformiadau rhyngwladol anturus, gan hyrwyddo artistiaid o Gymru ochr yn ochr â pherfformwyr o bob cwr o’r byd.
Mae’n rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd (2-17 Hydref), sef rhaglen pythefnos ehangach sy’n ymgorffori Gŵyl Sŵn a’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, sydd â’r nod o amddiffyn, hyrwyddo a chryfhau ecosystem cerddoriaeth y brifddinas. Cefnogir yr ŵyl gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.
Meddai Graeme Farrow, Prif Swyddog Creadigol Canolfan Mileniwm Cymru: “Nid gŵyl sy’n seiliedig ar algorithmau a siartiau ffrydio yw Llais. Mae’n wythnos sydd wedi’i churadu’n ofalus o leisiau arbennig, cyfarfyddiadau annisgwyl a phrofiadau byw bythgofiadwy. Darganfod yw hanfod Llais. Rydyn ni i gyd yn treulio cymaint o’n bywydau yn derbyn argymhellion am beth i wrando arno nesaf, ond does dim byd gwell na chlywed rhywbeth newydd a byw a chael ein trawsnewid yn llwyr. Dyna yw pwrpas Llais.”
Yn agor yr ŵyl ddydd Mercher 7 Hydref bydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig fawreddog, gan ddathlu’r albymau gorau a ryddhawyd gan artistiaid Cymreig dros y flwyddyn ddiwethaf, a gosod y llwyfan ar gyfer pum niwrnod o gerddoriaeth a pherfformiadau eithriadol.
Ar frig y cyhoeddiad cyntaf o berfformwyr mae’r artist amlgyfrwng arloesol Laurie Anderson, a fydd yn perfformio am y tro cyntaf yng Nghymru gyda Friends and Teachers – perfformiad a grëwyd yn arbennig ar gyfer Llais.
Mae’r band gospel chwedlonol, Blind Boys of Alabama, sydd wedi ennill Grammy, yn enw arall sy’n ymddangos ar y rhestr, a byddan nhw’n cael eu cefnogi gan y London African Gospel Choir yn perfformio Graceland gan Paul Simon. Hefyd yn perfformio mae’r gyfansoddwraig Wyddelig enwog Lisa Hannigan, yn cyflwyno ei phrosiect cydweithredol enwog Sirens, gydag artistiaid fel Theodora Byrne Trio, Jane Patterson, Helen Murray, Amanda Bergman, Kate Stables, Landless, Bess Atwell, Charlotte Church a mwy.
Ymhlith yr artistiaid eraill mae’r sêr cerddorol o Giwba, Buena Vista All Stars, ochr yn ochr ag Orchestra Baobab; a’r cyfansoddwr-sitarydd Jasdeep Singh Degun, yn perfformio gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC i ddathlu traddodiadau cerddorol yn dod at ei gilydd.
Bydd perfformiadau yn Stiwdio Weston yn cynnwys Shovel Dance Collective + Naima Bock; Bess Atwell; Tristwch y Fenywod + Joanne Robertson + Jasper Llewelyn ; a Cwmwl Tystion III / Empathy gan Tomos Williams.
Bydd llwyfan Cabaret Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnal Landless a Jordan Playfair, yn ogystal â Gwobrau Oram x Tŷ Cerdd, sy’n hyrwyddo gwaith menywod ac artistiaid amrywiol o ran rhywedd sy’n arbrofi gyda sain, cerddoriaeth a thechnoleg. Wedi ei ddatblygu ar gyfer rhifyn 2026 o ŵyl Llais, mae’r digwyddiad yn dod â thîm Gwobrau Oram, Tŷ Cerdd ac enillwyr dethol eleni ynghyd mewn cydweithrediad arbennig ar draws rhhaglenni.
Sinema Realiti Rhithwir yn Llais
Y tu hwnt i’r rhaglen fyw, gall cynulleidfaoedd hefyd gamu i mewn i bedwar profiad realiti rhithwir sydd wedi cael clod rhyngwladol yn Sinema Realiti Rhithwir Canolfan Mileniwm Cymru, gan ehangu Llais y tu hwnt i’r llwyfan drwy adrodd straeon ymdrochol.
Mae’r arddangosfa Sinema Realiti Rhithwir (28 Medi – 11 Hydref) yn cynnwys:
- Trioleg Just for You – Tair ffilm ymdrochol arobryn gan y gwneuthurwr theatr o Taiwan, Craig Quintero, sy’n archwilio cof, marwolaeth a’r gofod rhwng breuddwydion a realiti.
- The Art of Change – Taith realiti rhithwir drawiadol weledol gan Funilab a DROELOE sy’n archwilio hunaniaeth, cof a thrawsnewidiad personol dros amser.
- Bodies of Water – Mae gwaith ymdrochol yr artist realiti ymestynnol o Ganada, Chélanie Beaudin-Quintin, yn gwahodd cynulleidfaoedd i brofi’r berthynas drawsnewidiol rhwng y corff dynol a dŵr.
- Ôl | Haunts – Stori dod i oed mewn realiti rhithwir gan Lucy Hammond a Tom Chetwode-Barton, wedi’i lleoli yn y gogledd yn 2006, sy’n cyfuno atgofion, cerddoriaeth a’r sîn barti Gymreig.
Mae uchafbwyntiau Gŵyl Llais yn cynnwys:
Theatr Donald Gordon
Dydd Mercher 7 Hydref
- Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2026
Dydd Iau 8 Hydref
- Laurie Anderson – Friends and Teachers
Dydd Gwener 9 Hydref
- Blind Boys of Alabama a’r London African Gospel Choir yn perfformio Graceland gan Paul Simon
Dydd Sadwrn 10 Hydref
- Sirens – Wedi’i gyflwyno gan Lisa Hannigan: Gyda’r artistiaid arbennig Theodora Byrne Trio, Jane Patterson, Helen Murray, Amanda Bergman, Kate Stables, Landless, Bess Atwell, Charlotte Church a mwy.
Dydd Sul 11 Hydref
- Buena Vista All Stars + Orchestra Baobab
Stiwdio Weston
Dydd Iau 8 Hydref
- Shovel Dance Collective + Naima Bock
Dydd Gwener 9 Hydref
- Bess Atwell
Dydd Sadwrn 10 Hydref
- Tomos Williams – Cwmwl Tystion III / Empathy
Dydd Sul 11 Hydref
- Tristwch y Fenywod + Joanne Robertson + Jasper Llewelyn
Cabaret
Dydd Gwener 9 Hydref
- Gwobrau Oram x Tŷ Cerdd (ar werth yn fuan)
Dydd Sadwrn 10 Hydref (prynhawn)
- Landless
Dydd Sadwrn 10 Hydref (gyda’r hwyr)
- Jordan Playfair
Neuadd Hoddinott y BBC
Dydd Iau 8 Hydref
- Jasdeep Singh Degun x Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC – Dod Ynghyd
Tocynnau
Mae tocynnau ar werth o 10am ymlaen, ddydd Mercher 15 Gorffennaf gan Ganolfan Mileniwm Cymru: www.yganolfan.org.uk/llais
Cynnig arbennig
- Archebwch docynnau ar gyfer dau ddigwyddiad Llais er mwyn arbed 10%.
- Archebwch docynnau ar gyfer tri digwyddiad Llais er mwyn arbed 15%.
Nid yw’r cynnig yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Jasdeep Singh Degun x Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, na’r profiadau Sinema Realiti Rhithwir. Mae telerau ac amodau yn berthnasol.