Cyhoeddi partneriaeth 'Rhes Gefn Caerdydd' gyda’r Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth
Dydd Mer, 22 Gorff 2026
Mae partneriaeth newydd gyda’r Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth wedi’i chyhoeddi gan Gyngor Caerdydd. Nod partneriaeth ‘Rhes Gefn Caerdydd’ yw cefnogi artistiaid lleol a lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad y ddinas trwy sicrhau bod ganddynt fynediad at offer rhes gefn o ansawdd uchel fel ampiau, drymiau, meicroffonau a systemau sain.
Bydd offer rhes gefn newydd, a ddewiswyd yn dilyn trafodaeth gyda lleoliadau lleol, yn cael ei brynu i’w ddefnyddio fel rhan o gynllun cenedlaethol yr Ymddiriedolaeth, ‘Raise the Standard’, gan ddefnyddio incwm a gynhyrchwyd gan y Cyngor o gyngherddau Blackweir Live y llynedd.
Dywedodd Mark Davyd, Prif Swyddog Gweithredol yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth: “Mae’n wych gweld Cyngor Caerdydd yn arwain yn fyd-eang o ran gwella amodau ar gyfer cerddorion, hyrwyddwyr a lleoliadau ar lawr gwlad. Mae hwn yn ymyrraeth syml, sy’n sicrhau bod pob lleoliad ar lawr gwlad yn y ddinas yn gallu cynnig rhes gefn o ansawdd uchel i artistiaid sydd ar daith, ond mae’n gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd, cost a chynaliadwyedd. Dyma’r ddinas gyntaf yn y byd i gymryd trosolwg mor uniongyrchol a chynhwysfawr o anghenion ei seilwaith ar lawr gwlad, ac rydyn ni’n falch iawn o weithio gyda Dinas Gerdd Caerdydd i’w gyflawni.”
Deilliodd y syniad ar gyfer y bartneriaeth o drafodaeth rhwng Swyddogion Cyngor Caerdydd, cynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth LIVE, a cherddorion lleol yng nghynhadledd diwydiant Sŵn Connect yr hydref diwethaf a gynhaliwyd yn ystod Gŵyl Dinas Gerdd flynyddol Caerdydd.
Fe wnaeth cerddorion lleol godi pryder am y costau sy’n gysylltiedig â llogi cerbydau i gludo offer i gigs – a’r angen i wneud hynny er mwyn sicrhau eu bod yn defnyddio cit o ansawdd proffesiynol sydd wedi’i gynnal yn dda a chynnig y sioeau gorau y gallent.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth, y Cynghorydd Jennifer Burke: “Rhes Gefn Caerdydd yw ein hymateb uniongyrchol i faterion a godwyd gan gerddorion lleol.
“Drwy roi cyllid i Dinas Gerdd Caerdydd i brynu offer rhes gefn, gallwn ni gefnogi sawl artist lleol – gan sicrhau bod ganddyn nhw fynediad at git dibynadwy o safon broffesiynol wrth leihau’r costau sy’n gysylltiedig â gigio hefyd.
“Mae sefydlu partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth yn lluosi ein buddsoddiad cychwynnol sawl gwaith drosodd, gan sicrhau bod yr offer yn cael ei gynnal a’i ddisodli dros amser fel bod cenedlaethau’r dyfodol o gerddorion lleol hefyd yn elwa.”
O dan y bartneriaeth, bydd yr offer a brynwyd gan y Cyngor yn dod yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth. Mae hyn yn galluogi’r offer i gael ei gynnal a’i gadw, ei adnewyddu a’i ddisodli dros amser trwy raglen genedlaethol ‘Raise the Standard’ yr Ymddiriedolaeth, gan sicrhau bod buddsoddiad y Cyngor yn darparu manteision hirdymor i sector cerddoriaeth y ddinas.
Mae’r lleoliadau a fydd yn elwa o ‘Rhes Gefn Caerdydd’ yn cynnwys The Canopi, Clwb Ifor Bach, Porter’s, Paradise Garden, Tiny Rebel, yn ogystal â Tân Cerdd – Cwmni Buddiannau Cymunedol ar gyfer cerddoriaeth Ddu dan arweiniad pobl Ddu sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo ac eirioli dros gynnwys a dyrchafu artistiaid Du yng Nghymru – a Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd.
Darganfod fwy am Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth