Adroddiad yn datgelu'r effaith bwerus gafodd prosiect cerddoriaeth ledled y ddinas ar filoedd o blant
Mae adroddiad gwerthuso newydd wedi tynnu sylw at effaith sylweddol prosiect arloesol Codi Llais yng Nghaerdydd, gan ddangos sut gall cerddoriaeth helpu pobl ifanc i fagu hyder, creadigrwydd, ymdeimlad cryfach o berthyn a llais ar y cyd.
Canfu’r adroddiad annibynnol, oedd yn asesu’r fenter canu a chyfansoddi caneuon ledled y ddinas a gyflwynwyd gan Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro, fod y prosiect wedi llwyddo i ymgysylltu â miloedd o blant a phobl ifanc a chreu manteision parhaol i ddisgyblion, ysgolion a chymunedau ehangach.
Daeth Codi Llais – â phlant o ysgolion ledled Caerdydd at ei gilydd drwy raglen o weithdai, gweithgareddau cyfansoddi caneuon a pherfformiadau byw, gan arwain at ddigwyddiad côr torfol ar raddfa fawr. Rhoddodd Bronwen Lewis, cantores, cyfansoddwraig a chyflwynydd sioe foreol BBC Radio Wales berfformiad annisgwyl pan ymunodd â’r côr a’r perfformwyr i berfformio dwy o’i chaneuon ei hun a’r gân a ysgrifennwyd ganddi hi a’i disgyblion yn arbennig ar gyfer y prosiect – ‘Codi Llais’.
Mae’r adroddiad yn nodi llwyddiant y prosiect wrth roi cyfleoedd ystyrlon i bobl ifanc fynegi eu hunain yn greadigol, magu hunanhyder a datblygu cysylltiad cryfach â’u cyfoedion, ysgolion a chymunedau.
Mae’r canfyddiadau’n dangos bod cymryd rhan yn y prosiect wedi gwella hyder a pharodrwydd disgyblion i berfformio, wedi cefnogi sgiliau cyfathrebu a llafaredd ac wedi meithrin mwy o ymdeimlad o falchder, cyflawniad a pherthyn. Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at werth creu cerddoriaeth ar y cyd i helpu pobl ifanc i weithio gyda’i gilydd, dathlu amrywiaeth a datblygu ymdeimlad o hunaniaeth a rennir trwy berfformio ar y cyd.
Canfu’r gwerthusiad fod y manteision yn ymestyn y tu hwnt i ddisgyblion, gydag athrawon yn adrodd mwy o hyder wrth gyflwyno gweithgareddau cerddoriaeth ac ysgolion yn nodi effeithiau cadarnhaol ar ymgysylltu a lles. Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at gyfraniad y prosiect at gryfhau’r ddarpariaeth gerddoriaeth ledled Caerdydd, gan helpu i greu cyfleoedd cynaliadwy i bobl ifanc gael profiadau cerddorol o ansawdd uchel.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Addysg: “Mae adroddiad Codi Llais yn dangos y gwahaniaeth dwfn y gall cerddoriaeth ei wneud ym mywydau pobl ifanc. Mae’r canfyddiadau’n dangos pan fydd plant yn cael cyfleoedd i berfformio, creu a chydweithio, maent yn datblygu hyder, gwytnwch a chred gryfach yn eu galluoedd eu hunain.
“Yr hyn sy’n arbennig o galonogol yw tystiolaeth yr adroddiad o’r ffordd mae cerddoriaeth yn helpu i feithrin ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth gyfunol. Trwy Codi Llais, daeth miloedd o bobl ifanc o wahanol gymunedau at ei gilydd i rannu profiadau, mynegi eu hunain a dod o hyd i’w llais.
“Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad at gyfleoedd creadigol cyfoethog. Mae cerddoriaeth yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi lles, datblygu sgiliau cyfathrebu a meithrin creadigrwydd, ac mae llwyddiant Codi Llais yn atgyfnerthu pwysigrwydd parhau i fuddsoddi mewn addysg gerddoriaeth o ansawdd uchel i’n holl bobl ifanc.”
Mae canfyddiadau’r adroddiad yn cefnogi ymrwymiad ehangach Cyngor Caerdydd i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cael mynediad at gyfleoedd sy’n cyfoethogi dysgu, yn gwella lles a’u helpu i ffynnu. Trwy fuddsoddi mewn addysg gerddoriaeth a rhaglenni creadigol fel Codi Llais, mae’r Cyngor yn helpu pobl ifanc i ddatblygu’r hyder i siarad, y creadigrwydd i arloesi a’r ymdeimlad o berthyn sy’n eu galluogi i gyflawni eu potensial.
Gallwch ddarllen yr adroddiad yma: Adroddiad Prosiect Codi Llais – EH