DWEUD WRTHYM AM EICH PROFIAD O’R ŴYL - CYFLE I ENNILL CERDYN RHODD 'TICKETMASTER' GWERTH £150

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn am Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2026 – p'un a wnaethoch fynychu un digwyddiad, neu fanteisio i'r eithaf ar y nifer fawr o ddigwyddiadau oedd ar gael. Llenwch ein harolwg byr a chewch gyfle i ennill cerdyn rhodd Ticketmaster gwerth £150. Heb gynnwys digwyddiadau fel rhan o Llais a Sŵn. Mae telerau ac amodau yn berthnasol. Yn cau am 09:00 ddydd Llun 16 Tachwedd 2026.

TELERAU AC AMODAU

Dewiswch i mewn i Raffl Gwobrau Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd i gael cyfle i ennill cerdyn rhodd electronig Ticketmaster gwerth £150 y gellir ei ddefnyddio fel taliad rhannol neu lawn am unrhyw docynnau a archebir gyda Ticketmaster UK. Mae Telerau ac Amodau yn berthnasol.


Y Wobr

  • Cerdyn rhodd electronig Ticketmaster £150 ar-lein.
    Mae Telerau ac Amodau cerdyn rhodd electronig yn berthnasol. Cardiau Rhodd: Popeth sydd angen i chi ei wybod – Cymorth Ticketmaster
    Rhaid adbrynu pob elfen o’r wobr ar y dyddiadau / amseroedd a nodir yn y telerau ac amodau.
    Ni chynigir unrhyw arian parod na dewisiadau eraill, ac ni ellir trosglwyddo gwobrau.
  • Rhaid i gyfranogwyr fod yn breswylwyr y DU 18 oed a hŷn i gymryd rhan yn y raffl gwobrau.
  • Bydd pob cyfranogwr yn gyfyngedig i un cofnod yn y raffl gwobrau.
  • Rhaid i gyfranogwyr nodi eu manylion erbyn 09:00 GMT ar ddydd Llun 16 Tachwedd 2026.
  • Dewisir yr enillydd ar hap a chaiff ei hysbysu erbyn dydd Mawrth 17 Tachwedd 2026, dros y ffôn ac e-bost.
  • Bydd gan yr enillydd tan 14:30GMT ar ddydd Iau 18 Tachwedd 2026 i dderbyn y wobr neu bydd enillydd arall yn cael ei ddewis.
  • Nid oes angen prynu ac nid oes tâl i gymryd rhan yn y raffl gwobrau.
  • Bydd telerau ac amodau’r raffl gwobrau hwn yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr.
  • Mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ganslo neu ddiwygio’r gystadleuaeth a’r telerau hyn os bydd amgylchiadau’n codi y tu hwnt i’w reolaeth.
  • Nid yw’r hyrwyddwr yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddifrod, colled, anaf neu siom a ddioddefir gan gyfranogwyr o ganlyniad i gymryd rhan yn y raffl gwobrau.
  • Mae cyfranogwyr yn darparu gwybodaeth i’r hyrwyddwr a bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i weinyddu’r raffl gwobrau yn unig.
  • Bydd cyfenw a lleoliad enillydd y wobr yn y DU ar gael drwy e-bost o fewn mis i ddiwedd y raffl.
  • Yr hyrwyddwr yw Dinas a Sir Caerdydd sy’n masnachu fel Dinas Gerdd Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW.
  • Bydd cyfranogwyr y raffl wedi derbyn y telerau ac amodau hyn.