Neidio i'r prif gynnwys

Wunderhorse

Dyddiad(au)

08 Hyd 2024

Amseroedd

19:00

Lleoliad

The Great Hall, Undeb Myfyrwyr Caerdydd, Heol Senghennydd, Caerdydd, CF10 3QN

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn cyflwyno

WUNDERHORSE

Cefnogir gan HIGHSCHOOL

 

Mae Wunderhorse (Jacob Slater, Harry Fowler, Peter Woodin a Jamie Staples) wedi gweld eu poblogrwydd yn ffrwydro yn y ffordd henffasiwn; gan ennill cefnogwyr drwy berfformiadau byw angerddol a chyfansoddi nwyfus Slater. Yn 2022 gwnaeth eu halbwm cyntaf, ‘Cub’, eu catapwltio o isloriau croch i deithiau cefnogi blaenllaw gyda Fontaines D.C, Pixies, a Sam Fender, a phabell Woodsies lawn yn Glastonbury – i gyd o fewn blwyddyn.

Mae eu sengl newydd ‘Midas’ yn cyfleu’r pŵer a’r egni amrwd sydd wedi eu gosod ar wahân fel un o actau byw gorau’r blynyddoedd diwethaf. Mae’r bachau cadarn, y sŵn di-hidl, a’r sensitifrwydd melodig ffyrnig yn siŵr o danio Wunderhorse at flwyddyn a fydd yn sefydlu eu henw fel talentau tanbaid ‘unwaith mewn cenhedlaeth’.