Somebody’s Child
Dyddiad(au)
14 Hyd 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Somebody’s Child yn mynd o nerth i nerth yn y sîn roc fodern. Maen nhw’n adnabyddus am eu sain ddeinamig ac am gyfansoddi caneuon amrwd, diffuant. Dan arweiniad y prif leisydd Cian Godfrey, mae’r band o Ddulyn wedi datblygu enw da am eu perfformiadau byw trydan, gan werthu pob tocyn mewn lleoliadau ledled y DU, Iwerddon a chyfandir Ewrop a rhannu llwyfannau gyda The War on Drugs, Bloc Party a Kings of Leon. Fe wnaeth eu halbwm cyntaf yn 2023 eu cadarnhau fel band o fri, gyda thraciau anthemig fel “Broken Record”, “I Need Ya” a “We Could Start a War” yn taro tant gyda’u cefnogwyr. Yn 2024 wnaethon nhw gymryd camau mwy breision fyth, gan gynnwys sioe garreg filltir yn Theatr 3Olympia yn Nulyn a pherfformio ar brif lwyfan Electric Picnic.
Yn benderfynol o esblygu y tu hwnt i gonfensiynau indi-roc, mae Somebody’s Child yn gwthio eu ffiniau creadigol yn gyson. Mae eu hail albwm, When Youth Fades Away, a recordiwyd yn Connecticut gyda’r cynhyrchydd Peter Katis (The National, Interpol), sydd wedi ennill Grammy, yn eu gweld yn archwilio sain newydd, wedi’i ddylanwadu’n rhannol gan arloeswyr electronig fel Kraftwerk. Mae’r record yn cofleidio newid sain a thema, gan fyfyrio ar realiti tyfu’n hŷn – nid gyda hiraeth, ond gyda’r awydd i ailddyfeisio.