Sioe Deithiol y Gronfa Arddangos Rhyngwladol gan PRS Foundation
Dyddiad(au)
15 Hyd 2025
Amseroedd
17:00 - 20:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Fe’ch gwahoddir i Sioe Deithiol Cronfa Arddangos Rhyngwladol Sefydliad PRS yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Ymunwch â ni ar gyfer diwedd Sioe Deithiol y Gronfa Arddangos Rhyngwladol, sydd wedi bod yn teithio ledled y Deyrnas Unedig, ddydd Mercher 15 Hydref 2025 yn Canopi, 59-61 Tudor St, Caerdydd, CF11 6AD. 5:00pm–8:00pm. Dyma gyfle i glywed gan dderbynyddion grantiau blaenorol y Gronfa Arddangos Rhyngwladol, arbenigwyr lleol ar allforio cerddoriaeth, Sefydliad PRS a gweithwyr proffesiynol eraill y diwydiant i drafod; gweithio’n rhyngwladol, beth mae’n ei olygu i fod yn barod i allforio, sut mae’r gronfa’n gweithio a mwy, a ddilynir gan sesiwn rwydweithio.
5:30pm – Sefydliad PRS – Cyflwyniad ar y Gronfa Arddangos Rhyngwladol.
6:00pm – Panel Allforio Cerddoriaeth yn cynnwys Mace the Great – Pryd i feddwl am allforio a sut i fynd ati.
6:45pm – Rhwydweithio. (darperir diodydd)
8:00pm – Diwedd.
Mae’r Gronfa Arddangos Rhyngwladol yn cynnig grantiau o hyd at £5,500 ar gyfer cyfleoedd allforio rhyngwladol i artistiaid, bandiau, cyfansoddwyr a chynhyrchwyr yn y Deyrnas Unedig sydd wedi cael gwahoddiad i berfformio neu greu cerddoriaeth newydd mewn gwyliau arddangos, gwersylloedd cyfansoddi neu gynadleddau rhyngwladol ar gyfer y diwydiant. Mae derbynyddion blaenorol yn cynnwys Nova Twins, Mace the Great, Twst, Fergus McCreadie, Lambrini Girls, Adjua, corto.alto, Little Simz, Fat Dog ac Anthony Szmierek.
Yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Cefnogir gan Lywodraeth Cymru / Cyngor Caerdydd