Neidio i'r prif gynnwys

Y Triawd Pino Palladino, Chris Dave ac Isaiah Sharkey

Dyddiad(au)

14 Hyd 2024

Amseroedd

19:30

Lleoliad

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Ffordd y Gogledd, Caerdydd, CF10 3ER

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn cyflwyno

Y Triawd Pino Palladino, Chris Dave ac Isaiah Sharkey

 

Mae Pino Palladino, un o chwaraewyr bas enwocaf y byd, wedi perfformio ar dros 1,000 o recordiadau gan artistiaid yn cynnwys Adele, Eric Clapton, The Who, D’Angelo, Nine Inch Nails ac eraill.

Fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, bydd y cyfansoddwr a’r cynhyrchydd a’r basydd yn cael cwmni Chris Dave, “drymiwr mwyaf peryglus y byd,” a’r gitarydd meistrolgar Isaiah Sharkey ar gyfer sioe gartref arbennig.

Mae tocynnau hefyd yn cynnwys cyfle i gael mewnwelediad unigryw i’w yrfa 40 mlynedd yn y diwydiant wrth iddo sgwrsio â DJ 6Music, Huw Stephens i drafod pob agwedd ar gerddoriaeth.