Neidio i'r prif gynnwys

N’famady Kouyaté gyda Bridget O’Donnell ac Misha Mullov-Abbado

Dyddiad(au)

02 Hyd 2024

Amseroedd

19:00

Lleoliad

Porter's, Barrack Lane, Caerdydd, CF10 2FR

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Gwyl Dinas Gerdd Caerdyd & Sinfonia Cymru yn cyflwyno…
N’famady Kouyaté gyda Bridget O’Donnell ac Misha Mullov-Abbado
Dydd Mercher 2 Hydref 2024 | Porter’s Caerdydd | AM DDIM

Mae N’famady Kouyaté, enillydd y Gystadleuaeth Talentau Addawol 2023 yn Glastonbury, yn ganwr ac aml-offerynnwr a aned yn Guinea. Yn y cydweithrediad newydd a chyffrous hwn, mae N’famady yn ymuno â Bridget O’Donnell, y fiolinydd clasurol/ gwerin o Awstralia, Misha Mullov-Abbado,
y chwaraewr bas dwbl ac Artist Cenhedlaeth Newydd y BBC, a thriawd telyn/llinynnau o Sinfonia Cymru.

Dewch i fwynhau trefniannau newydd o gerddoriaeth N’famady, ei lais anhygoel a’i sgiliau ar y balafon, ynghyd â cherddoriaeth werin a jazz Bridget a Misha wedi’i hysbrydoli gan natur, a ffefrynnau clasurol. Gallwch ddisgwyl cyfuniad dynamig o arddulliau a seiniau rhyngwladol – ac mae’r cyfan yn rhan o ŵyl newydd Sŵn y Ddinas, Caerdydd