Neidio i'r prif gynnwys

CYHOEDDI 60+ O ENWAU SŴN 2025! | Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd

PRIF ŴYL I DDARGANFOD CERDDORIAETH YNG NGHYMRU SŴN YN CYHOEDDI’R DON GYNTAF O ARTISTIATID 2025 –

BYDD YR ŴYL AR DRAWS Y BRIFDDINAS 16 – 18 HYDREF


ARTISTIAID WEDI’U CYHOEDDI HEDDIW:


ANI GLASS

BREICHIAU HIR
BUDDUG
GEORGIA RUTH
GURRIES
MORN
MYKKI BLANCO
MAN/WOMAN/CHAINSAW
SYWEL NYW
SLATE
SHALE
TAI HAF HEB DRIGOLYN
TALULAH
+ LLAWER MWY

TOCYNNAU AR GAEL YMA

 

“Charming, a little slept on and flecked with magic.” – The Guardian
“Diverse and full of surprises.” – NME
“There’s something for everyone.” – DIY
“Sŵn Festival is setting the benchmark for festival line-ups and really hammers in a ‘no more excuses’
approach when it comes to diversity on line-ups… A perfectly run event, glued together by beautiful,
kind and community-driven people.” – Clash

Heddiw, mae Gŵyl Sŵn wedi cyhoeddi’r don gyntaf o artistiaid a fydd yn ymddangos yn yr ŵyl eleni. Mae’r ŵyl aml-leoliad yn cael ei chynnal ar draws y brifddinas o ddydd Iau 16 Hydref tan ddydd Sadwrn 18 Hydref. Unwaith eto eleni, mae’r ŵyl yn bartner balch i Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Mae Sŵn yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd: dathliad hyd pythefnos o gigiau, sesiynau, gosodweithiau a digwyddiadau dros dro, gan harneisio pŵer cerddoriaeth,
perfformiad a thechnoleg i uno ac ysbrydoli.

Sefydlwyd Sŵn gan Huw Stephens yn 2007, ond ers 2018 tîm Clwb Ifor Bach sydd wrth y llyw. Eleni, bydd yr ŵyl tridiau yn cyflwyno perfformiadau mewn lleoliadau ar draws y ddinas, gan aros yn driw at weledigaeth graidd Sŵn sef meithrin talent leol, genedlaethol a rhyngwladol a chynnig llwyfan i artistiaid arddangos eu doniau.

Bydd ymroddiad Sŵn i ddathlu talent Cymraeg a Chymreig yn rhoi cyfle i’r gynulleidfa cael gwledd gan feistri roc barddonol a gothig Slate a mwynhau gitâr indie-pop gan Shale. Ymhlith y talentau Cymreig eraill i gadw llygad arnynt mae’r canwr-gyfansoddwr o Aberystwyth Georgia Ruth a’r cerddor pop electronig o Gaerdydd Ani Glass. Bydd cyfle i’r gynulleidfa cael eu swyno gan y gantores Buddug o Ogledd-orllewin Cymru ar ôl iddi ennill 4 gwobr yng ngwobrau’r Selar eleni.

Eleni hefyd, bydd sylw’n cael ei roi i Talulah, enillydd Gwobr Trisgel yng Ngwobrau Gerddoriaeth Gymreig 2023 am felodïau jazz a harmonïau breuddwydiol; yn ogystal â’r canwr-gyfansoddwr 18 oed o Ferthyr Tudful, Nancy Williams, talent newydd addawol yn sîn gwerin indie y DU.

Yn ychwanegol i’r artistiaid o Gymru mae Mykki Blanco, cerddor, bardd ac ymgyrchydd rhyngwladol enwog yn enw na ddylid ei golli yng ngŵyl eleni. Bydd y band celf-bync o Lundain, Man/Woman/Chainsaw, yn dod â’u cyfuniad deinamig o egni pync, offeryniaeth glasurol, a threfniadau arbrofol i strydoedd Caerdydd, a bydd y band pum darn ôl-bync Gwyddelig, Gurries, yn hawlio eich sylw gyda’u hegni crai a’u riffiau miniog.

Mae’r ŵyl unwaith eto yn cael ei gynnal mewn aml-leoliad dros y tridiau, gan berchnogi Stryd Womanby a thu hwnt gydag amserlen lawn o gerddoriaeth newydd a chyffrous. Eleni mae Tramshed, Clwb Ifor Bach, St John’s Church, Jacobs Basement, Fuel, The Canopi, Tiny Rebel, The New Moon a Porters yn cymryd rhan.

Meddai Adam Williams, rheolwr cerddoriaeth byw Sŵn:

“Rydym wrth ein bodd yn datgelu’r don gyntaf o artistiaid ar gyfer Gŵyl Sŵn 2025! Eleni, mae’r ŵyl yn dychwelyd gyda thri diwrnod llawn o gerddoriaeth newydd mewn lleoliadau cerddoriaeth Caerdydd – gyda dros 150 o artistiaid yn perfformio ar draws 10 llwyfan anhygoel. Rydym yn falch o hyrwyddo cerddoriaeth newydd a rhoi llwyfan i’r artistiaid anhygoel rydym yn cydweithio â nhw drwy gydol y flwyddyn – bydd llawer ohonynt yn chwarae eu sioeau mwyaf yng Nghymru hyd yn hyn. Ac mae mwy i ddod – rydym wrthi’n rhoi’r cyffyrddiadau olaf ar rai gwesteion arbennig iawn, meddiannu llwyfannau unigryw, ac ail gynnal ein cynhadledd datblygu artistiaid, Sŵn Connect. Byddwn yn rhannu’r mwy o fanylion yn fuan!”

 

Mae’r ŵyl eleni yn anelu i fod yn fwy hygyrch i’r gymuned ehangach, gan gyflwyno gynlluniau talu, tocynnau consesiwn a mwy o gyfleoedd i gymryd rhan trwy’r rhaglen wirfoddoli a chynllun cais i chwarae newydd sbon ar gael. Cofrestrwch i gael gwybod pan fydd ceisiadau’n agor.

 

NODIADAU I’R GOLYGYDD

RHESTR LAWN O’R ARTISTIAID A GYHOEDDWYD HEDDIW:
3L3D3P | Adult DVD | Angharad | Angry Blackmen | Ani Glass | Bramwell | Breichiau
Hir | Brown Horse | Buddug | C Turtle | Casual Smart | Clara Mann | Cubzoa |
Deadletter | Dog Race | The Gentle Good | Georgia Ruth | Getdown Services |
Graywave | Gurriers | Jessica Winter | John Myrtle | Kathryn Joseph | Keo | Lime
Garden | Man/Woman/Chainsaw | Marsy | Martha O’Brien | Men An Tol | MF
Tomlinson | Midding | Moonchild Sanelly | Morn | Mykki Blanco | Nancy Williams |
Neve Cariad | The New Cut | No Windows | Opal Mag | The Orchestra (For Now) |
Oreglo | Pale Blue Eyes | Papaya Noon | Peiriant | Prima Queen | Quiet Man |
Rabbitfoot | Saint Clair | Samana | Scustin | Shale | The Sick Man of Europe | Slate |
Sywel Nyw | Tai Haf Heb Drigolyn | Talulah | Tokomololo | Two Blinks, I Love You |
White Flowers | Whitelands | Zac Lawrence