Meredith Monk gyda Katie Geissinger ac Allison Sniffin
Dyddiad(au)
09 Hyd 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae’n anrhydedd i Llais gyflwyno’r gyfansoddwraig a’r gantores o fri, Meredith Monk, yn perfformio’n fyw yng Nghymru am y tro cyntaf.
Fel un o artistiaid mwyaf unigryw a dylanwadol ein hoes, bydd hi’n cyflwyno un o’i chyngherddau prin, agos atoch, gydag aelodau arobryn o’i Ensemble Lleisiol, Katie Geissinger, ac Allison Sniffin. Mae Monk wedi cael ei disgrifio fel “swynwr y llais” ac “un o gyfansoddwyr mwyaf cŵl America”. Mae’r cyngerdd yn adlewyrchu chwe degawd o arloesedd a meistrolaeth leisiol anhygoel Monk, gan gloddio dyfnderoedd myrdd posibiliadau’r llais dynol.
Meredith Monk, llais ac allweddellau
Katie Geissinger, llais
Allison Sniffin, llais, feiolin ac allweddellau
—
Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn