Neidio i'r prif gynnwys

Creative Mornings: Myfyrdod gyda Mark James

Dyddiad(au)

28 Med 2024

Amseroedd

10:00

Lleoliad

Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd, CF10 3RB

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd a Creative Mornings Cardiff yn cyflwyno

MYFYRDOD gyda Mark James

 

Cyflwyno ein siaradwr: yr artist a’r dylunydd graffeg amlddisgyblaethol Mark James

Mae Mark yn gweithio ar draws sawl llwyfan creadigol o gyfarwyddo celf, cyfarwyddo fideo, ffotograffiaeth, darlunio, animeiddio a dylunio graffeg. Mae’n addasu ei waith i amrywiaeth o arddulliau. Mae ei waith cysyniadol wedi’i ysbrydoli gan gymysgedd o ddiwylliant poblogaidd a sylwebaeth gymdeithasol ac mae ganddo enw da am fod yn ddoniol, yn heriol ac yn ddadleuol.

Mae’n adnabyddus am gydweithio’n agos gyda cherddorion, ac mae wedi dylunio dros 100 o gloriau recordiau ac wedi gwneud fideos ar gyfer artistiaid fel U2, Queen, Maximo Park, Gilles Peterson, DJ Shadow, The Charlatans, Karl Hyde, Underworld, Jamie Cullum, Amy Winehouse, Whyte Horses, Howling Bells, Mala, Avicii, Joe Goddard, Luke UNA, You Me At Six a llawer mwy. Mae wedi gweithio gyda Super Furry Animals a Gruff Rhys ers dros 20 mlynedd.

Mae Creative Mornings Caerdydd yn cynnal sesiwn holi ac ateb gyda Mark fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, yr oedd yn arweinydd creadigol ar ei gyfer. Peidiwch â cholli’r cyfle prin hwn i ddysgu mwy am ysbrydoliaeth a phrosesau un o ddylunwyr mwyaf talentog a diwylliannol arwyddocaol Cymru.

 

MANYLION Y DIGWYDDIAD

Thema: Myfyrdod
Siaradwr: Mark James
Dyddiad: DYDD SADWRN 28 Medi
Amser: 10am-12pm
Lleoliad: Castell Caerdydd
Tocynnau’n cael eu Rhyddhau: Dydd Llun 16 Medi