Llais: Mabe Fratti
Dyddiad(au)
10 Hyd 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Soddgrythor, cyfansoddwr a chantores yw Mabe Fratti (o Guatemala, yn byw yn Ninas Mecsico) sy’n adnabyddus am ei chymysgedd atgofus o synau clasurol, atmosfferig ac avant-garde.
Mae’n defnyddio ei soddgrwth, ei llais, ac electroneg i greu seinweddau sy’n creu profiadau ymdrochol dwfn. Mae albymau clodwiw Fratti, fel Sentir Que No Sabes a Se Ve Desde Aquí, yn arddangos ei dawn i greu cerddoriaeth fewnsyllgar sydd hefyd yn eang.
Mae’n dwyn ysbrydoliaeth o fyrfyfyrio, cydweithio, ac awydd i gysylltu’n emosiynol â’i gwrandawyr. Mae ei gwaith wedi esblygu’n chwareus dros y blynyddoedd, ac mae elfen o syndod a throeon annisgwyl yn rhan o’r profiad o fwynhau ei cherddoriaeth.
—
Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 2 oed)
Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.