LLAIS: Khamira
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae’r band cerddoriaeth byd Indo-Gymreig Khamira yn ymweld â Gwyl Llais am y tro cynta’ wrth iddyn nhw ddathlu ei penblwydd yn 10 oed.
Yn cynnwys 3 cerddor o Gymru a 3 o India, mae Khamira yn perfformio ‘Cerddoriaeth Byd Byr-fyfyr’ – yn cyfuno cerddoriaeth werin Gymreig, cerddoriaeth glasurol Hindustani, jazz a roc.
Mae Khamira wedi perfformio mewn Gwŷliau ledled y byd ers 2015, gan gynnwys y Goa JazzFest a Seoul Music Week yn Ne Korea ac yn 2024 fe wnaethon nhw berfformio yng Ngwyl Jazz Kolkata am yr ail waith.
Ar gyfer y perfformiad arbennig yma yng Ngwyl Llais, bydd dwy gantores arbennig yn ymuno â Khamira ar y llwyfan: Amruta Garud ac Eadyth Crawford.
Ma’ cerddoriaeth Khamira yn gymysgedd llwyr o Gerddoriaeth Byd – dychmygwch gerddoriaeth sinematig Pat Metheny a band ffync Miles Davis o’r 70au wedi ei plethu gyda alawon gwerin Cymru a cherddoriaeth glasurol India.