Llais: Annie and the Caldwells
Dyddiad(au)
09 Hyd 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Teulu o Mississippi yw Annie and the Caldwells, sy’n canu cerddoriaeth enaid disgo rymus, o dan arweiniad eu mam Ms. Annie Caldwell.
Bydd eu cerddoriaeth yn eich cyffwrdd yn ysbrydol ond hefyd yn emosiynol—gyda chaneuon sydd yr un mor gartrefol yn eglwys Dduw ac ar y llawr dawnsio.
Mae eu halbwm newydd Can’t Lose My (Soul), a ryddhawyd ar label David Byrne, Luaka Bop, wedi bod yn ffrwtian ers 40 mlynedd ac mae wedi cael adolygiadau gwych eisoes yn MOJO a’r Guardian.
Mae Ms. Annie yn cael ei chefnogi gan ei merched Deborah ac Anjessica, a’i merch fedydd Toni Rivers; eu mab hynaf Willie Jr. sydd ar y bas a’u mab ieuengaf Abel Aquirius sydd ar y drymiau. Eu tad a gŵr Annie ers hanner can mlynedd, Willie Joe Caldwell, Sr, sydd ar y gitâr.
Ar y penwythnosau maen nhw’n chwarae fel arfer—ac yn eu gwaith bob dydd, mae Annie yn rhedeg siop ddillad, mae Willie Jr. yn gyrru wagen fforch godi, mae Abel Aquirius yn gyrru cleifion ysbyty, mae Anjessica yn gweithio yn adran gofal cwsmeriaid cwmni yswiriant, mae Toni yn athrawes ysgol gynradd, ac mae Deborah yn trin gwallt. Mae Ms. Annie ei hunan yn rhedeg cwmni Caldwell Fashions—siop boblogaidd i fenywod sy’n chwilio am ddillad ar gyfer pen-blwyddi eglwysig a chynulliadau COGIC (Church Of God In Christ) ers yr wythdegau.