Neidio i'r prif gynnwys

Llais: Adwaith

Dyddiad(au)

11 Hyd 2025

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru Bute Place Caerdydd CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Eleni yn Llais dewch i wylio digwyddiad o bwys wrth i Adwaith, un o fandiau mwyaf hanfodol ac arloesol Cymru o’r degawd diwethaf, gamu ar y llwyfan ar gyfer dau berfformiad pwerus na ddylech eu colli. Wrth iddyn nhw ddathlu deg mlynedd gyda’i gilydd, mae’r setiau yma yn cynnig myfyrdod ar eu taith a cham dewr tuag at y dyfodol.

Mae’r perfformiad cyntaf, O Dan y Haenau, yn gweld Adwaith yn pori drwy eu hen ganeuon gyda lens ffres – yn ailddehongli caneuon o Melyn, Bato Mato, Solas a senglau cynnar, gan gynnwys traciau o’u blynyddoedd cynnar sydd brin yn cael eu perfformio. Wedi’u hailddychmygu gyda’r egni crai ac uchelgais creadigol sydd wedi diffinio eu hesblygiad, mae’r sioe untro yma yn nodi arc llawn y band – o wreiddiau ôl-pync brys i arbrofi sonig sgrin lydan. Dyma’r cyfle olaf hefyd i glywed llawer o’r caneuon cynnar yma yn fyw.

Mae’r ail set, Solas, yn berfformiad llawn o’u halbwm dwbl aruthrol â 23 o draciau – am y tro olaf. Dewch gydag Adwaith i’r Gorllewin Pell am un eiliad olaf – gofod lle mae breuddwydion plentyndod yn llunio’r syniad o gartref, ac mae sain yn dod yn atgof. Yn ymdrochol, yn gludol ac yn hynod bersonol, bydd y perfformiad yma yn ffarwel prin ac emosiynol i ddarn o waith diffiniol. Eiliad o gloi – a chyfle olaf i brofi Solas yn ei holl gwmpas a phrydferthwch.