Ishmael Ensemble / Perfformiad trochol byw
Dyddiad(au)
11 Hyd 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Bydd yr Ishmael Ensemble yn dod â’u cyfuniad unigryw o jazz, ecletronica a seiniau arbrofol i gryndo CULTVR ar gyfer y perfformiad arbennig yma, gydag elfennau gweledol 360º gan Gynyrchiadau 4Pi.
Dan arweiniad y sacsoffonydd a chynhyrchydd Pete Cunningham, mae’r grŵp o Fryste wedi ennill enw am dorri eu cwys eu hunain yn sîn cerddorol y DU, gan gydweithio ag artistiaid fel Yazz Ahmed a Rider Shafique, a chael clod gan BBC 6 Music, The Guardian a Crack Magazine.
Mae eu cerddoriaeth yn llifo’n esmwyth rhwng seinweddau amgylchol, rhythmau deinamig a byrfyfyrio cignoeth gan dynnu ar ddylanwadau’n amrywio o jazz y DU, trip-hop a diwylliant clybiau. O’u halbwm nodedig cyntaf A State of Flow (2019) i Visions of Light (a gafodd dderbyniad gwresog gan feirniad yn 2021) i’w halbwm diweddaraf, Rituals, mae Ishmael Ensemble wedi tyfu ac esblygu’n barhaus gan greu cyfansoddiadau sinematig sy’n gyfoeth o wahanol weadau.
Bydd y perfformiad hwn yn cyflwyno eu sain deinamig ac unigryw mewn amgylchedd cwbl drochol gyda sgôr weledol a grewyd yn arbennig ar gyfer y digwyddiad. Bydd y cyfuniad cyfareddol yma o gyfansoddiadau haenog, arbrofi byw a’r berthynas rhwng cerddoriaeth a’r ddelwedd symudol yn sicrhau bod y profiad hwn o realiti a rennir yn siwrne drawsnewidiol.
Yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Cefnogir gan Lywodraeth Cymru / Cyngor Caerdydd.
11 Hydref
Drysau’n agor: 7.30pm
Perfformiad yn dechrau: 8.30pm
Perfformiad yn gorffen: 10pm
Tocynnau ymlaen llaw: £27.50
Tocynnau wrth y drws: £30 (os bydd rhai ar ôl)
Mae hwn yn ddigwyddiad 18+.