Neidio i'r prif gynnwys

Gŵyl Sŵn 2024

Dyddiad(au)

17 Hyd 2024 - 19 Hyd 2024

Amseroedd

17:00 - 23:30

Lleoliad

Caerdydd CF10

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn cyflwyno

SŴN 2024

Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn cyflwyno Sŵn, prif ŵyl darganfod cerddoriaeth Cymru.

Gŵyl cerddoriaeth gyfoes aml-leoliad glodwiw yw Gŵyl Sŵn, sydd wedi bod yn gonglfaen i dirlun diwylliannol Caerdydd ers 2007. Gydag ymrwymiad diwyro i arddangos cerddoriaeth newydd ac artistiaid dawnus sy’n dod i’r amlwg, mae rhaglen ein gŵyl yn dathlu ystod amrywiol o artistiaid, o artistiaid lleol i rai rhyngwladol.

Dros dridiau cofiadwy bob blwyddyn, rydyn ni’n cymryd yr awenau yn rhai o’n hoff leoliadau ledled canol y brifddinas. Rydyn ni’n trawsnewid y ddinas yn hyb byrlymus ar gyfer cerddorion a chefnogwyr fel ei gilydd, gan roi cyfle i chi archwilio dinas hyfryd Caerdydd, ei lleoliadau cerddoriaeth annibynnol, a darganfod cerddoriaeth newydd ryfeddol. Eleni, bydd gŵyl Sŵn yn digwydd o ddydd Iau 17 Hydref tan nos Sadwrn 19 Hydref.

Mae lleoliadau eleni yn cynnwys; Clwb Ifor Bach, Tramshed, Jacobs Antiques Market, Tiny Rebel, The Moon, Fuel, Mad Dog Brewery, a Cornerstone.

Eleni, mae Sŵn yn rhan falch o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.

RHESTR LAWN O’N ARTISTIAID HYD YMA:

Adwaith | Alias | Alien Chicks | Antony Szmierek | Art School Girlfriend | Automotion | Aziya | Blue Amber | Blue Bendy | Bored At My Grandmas House | Borough Council | Bricknasty | Buzzard Buzzard Buzzard | Canty | Casual Smart | Charlotte Clark | Circe | Clara Mann | Cosmorat | Creiriau | Crinc | Crows | Dana Gavanski | Das Koolies | The Dream Machine | Dushime | Ellie Bleach | Emyr Son | English Teacher | Enola | Fraülein | Freak Slug | GANS | Georgie & Joe | Gift | Good Neighbours | Griff Lynch | Half Happy | Hamish Hawk | Hana Lili | Hannah Diamond | HONESTY | Human Interest | Hyll | Ifan | Ile De Garde | The Itch | Ivor Woods | Jane Weaver | Jesca Hoop | Joe Wilkins | Johnny Loves Me | Kitty & Sorry Stacy | Knives | KYNSY | Lambrini Girls | Lanterns On The Lake | Malan | The Manatees | Manlikevision | Mared | Mari Mathias | Maruja | Mary In The Junkyard | Mellt | Memorials | Mirari | Morn | My First Time | The New Eves | NewWaveSound.Ent | Night Bus | Noah Bouchard | The None | OneDa | Paige Kennedy | Pencil | Philip Selway | The Pill | Plantoid | Plastic Estate | Pleasing | Porij | Public Order | Pys Melyn | Quade | Rachel Lavelle | Razkid | Roddy Woomble | Sarah Crean | The Secret Jesus Factory | She’s In Parties | Shlug | Shortstraw | Shtëpi | Spielmann | Sun King | Talulah | Tom Vek | TTSSFU | The Tubs | TWST | University | The Wave Pictures | Wrkhouse | Wu-Lu | YARD

CADWCH YN GYFOES

Cofrestrwch ar gyfer Dinas Gerdd Caerdydd i dderbyn diweddariadau cyffrous yn ymwneud â cherddoriaeth, digwyddiadau, pethau i'w gwneud a mwy gan y tîm. Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn un o nifer o brosiectau gan Ddinas Gerdd Caerdydd, a reolir gan Gyngor Caerdydd.