Folk at the Moon: Rebecca Hurn
Dyddiad(au)
15 Hyd 2024
Amseroedd
19:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn cyflwyno
FOLK AT THE MOON
Pennawd gan REBECCA HURN
Perfformio hefyd AWDL, MELDA LOIS, FRANKIE WESSON & TOM PILKS
Magwyd REBECCA HURN ger y môr ym Mhorthcawl, a gaiff ei adlewyrchu yn ei EP llwyddiannus ‘Waves’, a enwyd yn ‘Cân Werin Orau’ yn y Gwobrau Independent Music yn Efrog Newydd. Yn 2021 derbyniodd y wobr ‘Cyfansoddwr Gorau’ am ‘Panig’ yng nghystadleuaeth cyfansoddi fyd-eang y DU yn erbyn miloedd o geisiadau o dros 60 o wledydd. Rhyddhawyd yr albwm ‘Brace For Impact’ ym mis Mai gyda chymorth grant gan PRS, BBC a Chylch Cyfansoddwyr Efrog Newydd i ganlyn ei huchelgeisiau recordio. Mae Rebecca wedi perfformio yn The Great Escape, Focus Wales, In It Together, wedi chwarae yn Stadiwm Principality, CMC, Tramshed ac fe’i dewiswyd yn bersonol gan Pixie Lott i chwarae ei sioe yn Llundain gyda Tom Grennan.
AWDL: deuawd gwerin o Gaerdydd.
MELDA LOIS: Canwr-gyfansoddwr Cymraeg wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, gyda magwraeth cefn gwlad yn Eryri sy’n sylfaenol i’w gwaith. Mae delweddau o natur, y mynyddoedd a’r môr yn plethu drwy ei chaneuon, gyda sain gynnes felancolig, gan gasglu ei myfyrdodau ar fanylion bach bywyd.
Dechreuodd FRANKIE WESSON ysgrifennu a pherfformio yn 16 oed yn ei dref enedigol Y Fenni. Caneuon sinematig yn tynnu ar brofiadau personol chwerwfelys hiraeth, cariad heb ei ddychwelyd, pryder yr arddegau a realiti cymhleth tyfu i fyny’n LHDT+. Wedi ei fagu ar artistiaid fel Alanis Morrisette, Eva Cassidy a Stevie Nicks, mae Frankie hefyd cael ei ysbrydoli gan berfformwyr cyfoes fel Deaf Havana, Ed Sheeran, Taylor Swift a Gabrielle Aplin. Cerddoriaeth bersonol, emosiynol amrwd ond hamddenol gyda naws bop/werin/roc – ystod lleisiol hyblyg a thalent wrth ysgrifennu caneuon emosiynol, y gellir uniaethu â nhw ar gyfer perfformiadau byw swynol.
TOM PILKS: Asiad cyfareddol o roc a gwerin gydag alawon teimladwy a geiriau o’r galon, sy’n swyno cynulleidfaoedd gyda’i berfformiadau angerddol.