Croeso i Gymru
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Paratowch ar gyfer noson fythgofiadwy o gerddoriaeth, diwylliant a dathlu yn ‘Croeso i Gymru: Y Takeover MOBO Cymreig’ sy’n digwydd Ddydd Sadwrn, 5 Hydref 2024, yn y Tramshed eiconig yng Nghaerdydd.
Am y tro cyntaf erioed, rydym yn dod â’r enwau mwyaf a’r sêr mwyaf addawol yn y maes Cerddoriaeth o Darddiad Du o bob cwr o Gymru at ei gilydd ar gyfer digwyddiad unigryw fydd yn arddangos amrywiaeth a thalent gyfoethog ein hartistiaid ni. Nid cyngerdd yn unig yw hwn; mae’n foment, yn ddathliad o ddiwylliant Cymreig, ac yn brofiad i uno’r rheiny sy’n 16 oed a hŷn sy’n caru cerddoriaeth.
Gallwch ddisgwyl perfformiadau trydanol sy’n cwmpasu sawl genre, o hip-hop i R&B, grime i soul, i gyd yn rhannu un llwyfan am noson fythgofiadwy.
Ond nid profiad cerddorol yn unig fydd hwn. Gallwch fwynhau bwyd a diod blasus, nwyddau unigryw, podlediadau byw a chyfweliadau personol iawn gydag artistiaid fydd yn dod â chi’n agosach at y gerddoriaeth a’r bobl sy’n gyfrifol amdano. Bydd gwesteion arbennig yn ychwanegu haen ychwanegol o gyffro, gan wneud hwn yn ddigwyddiad gwirioneddol na ddylid ei golli.
Mae Croeso i Gymru yn fwy na dim ond sioe; mae’n foment o falchder a chydnabyddiaeth i artistiaid o Gymru a’u cefnogwyr fel ei gilydd. Peidiwch â cholli’ch cyfle i fod yn rhan o’r dathliad arloesol hwn o gerddoriaeth a diwylliant Cymreig.
Tocynnau ar werth Ddydd Gwener 30 Awst 2024, 10am