Chwarae Teg
Dyddiad(au)
16 Hyd 2024
Amseroedd
19:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Caerdydd Creadigol a Katie Owen yn falch iawn o gyhoeddi Chwarae Teg, digwyddiad cyffrous newydd i arddangos a dathlu artistiaid newydd o Gymru. Ymunwch â ni ar 16 Hydref 2024 yn The Moon, Womanby St am noson dan arweiniad y DJ a’r cyflwynydd Katie Owen ac yn cynnwys rhai o gerddorion newydd y ddinas a thu hwnt!
Gyda sîn gerddoriaeth Caerdydd yn llawn bwrlwm diolch i haf llawn o berfformwyr cerddoriaeth fyw a Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, sy’n cynnwys Sŵn, Llais, a’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig— dyma’r amser perffaith i archwilio’r artistiaid a fydd yn siapio dyfodol cerddoriaeth Cymru.
P’un a ydych yn artist neu’n frwd dros gerddoriaeth, ymunwch â ni i ddathlu tirwedd gerddoriaeth fywiog Caerdydd.
Lein-yp:
Kalisha Quinlan
Waterpistol
No Good Boyo (DJ set with live vocals)
Allwn ni ddim aros i’ch gweld chi yno!
📅 Dyddiad: Hydref 16, 2024
📍 Lleoliad: The Moon
🎧 Cynhelir gan: DJ Katie Owen, mewn partneriaeth â Chaerdydd Creadigol. Rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Cefnogir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.