Neidio i'r prif gynnwys

Bwthyn Sonig Noson Clwb Cynhwysol

Dyddiad(au)

18 Hyd 2024

Amseroedd

18:30

Lleoliad

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Gwyl Dinas Gerdd Caerdydd a Ty Cerdd cyflwyno

ELECTRIC FIRE

+ BWTHYN SONIG COLLECTIVE, ANARCHY WØLF, LLŶR GRIFFITHS a DJs

BWTHYN SONIG NOSON CLWB CYNHWYSOL

Mae’n amser parti a dyma’ch gwahoddiad!

Dewch i’n gig a’n noson glwb gyntaf erioed – yn Cabaret, Canolfan Mileniwm Cymru!

​Ymunwch â ni am gymysgedd enfawr o gerddoriaeth gan gerddorion dawnus o Gymru sy’n rhan o Bwthyn Sonig.

Bydd bandiau, perfformiadau unigol, DJs, a’r prif act Electric Fire Paratowch i ddawnsio!

Bydd gennym leoliad celf tawelach hefyd ar gyfer ymlacio, reit drws nesa yn Stiwdio Scratch, gyda chelf a cherddoriaeth gan Two Rhythms.

Mynediad

  • Mae seddi a lefydd i sefyll yn lleoliad y cabaret – rhowch wybod i ni os hoffech i ni gadw seddi i chi.
  • Bydd amddiffynwyr clustiau a sbectol haul ar gael i chi eu benthyg, neu blygiau clust y gallwch chi eu cadw.
  • Bydd delweddau gweledol, goleuadau symudol a lliwgar.
  • Bydd gennym leoliad celf tawelach hefyd ar gyfer ymlacio, gyda chelf a cherddoriaeth gan artistiaid Two Rhythms.

Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad penodol yr hoffech i ni wybod amdanynt, cysylltwch â ni: bwthynsonig@tycerdd.cymru

 

Drysau yn agor am 6.30yh
Cerddoriaeth yn dechrau am 7.30yh​

DS: Mynediad trwy ddrws CABARET ar ochr ddeheuol Canolfan y Mileniwm ger y Senedd / Pierhead – bydd gweddill yr adeilad ar gau ar gyfer digwyddiad