Jude Rogers ar Evolution of Beauty gan Richard James
BARN
Jude Rogers
Awdur, ysgrifennwr, newyddiadurwr, darlledwr ac ymgynghorydd creadigol, ysgrifennu ar gyfer Dinas Gerdd Caerdydd.
Cyfres Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd: cyfweliadau sy’n dathlu’r artistiaid arloesol o Gymru sy’n perfformio yn ystod y dathliad pythefnos o gerddoriaeth yn ein prifddinas, sy’n digwydd ar hyn o bryd.
Dydd Llun, 5 Hyd 2026
Yn Neuadd Farmor Caerdydd yn y Deml Heddwch am dridiau yr wythnos nesaf, bydd synau newydd yn ail-ddychmygu’r gofod cyffrous hwn, gan gynnwys syntheseisyddion analog, synau acwstig ac electronig hudolus, darnau ar lafar a recordiadau o’r awyr agored. Mewn adeilad a gynlluniwyd fel cofeb i filwyr a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac i hyrwyddo heddwch a chyfiawnder, bydd gosodwaith Evolution of Beauty gan Richard James yn dangos yr hyn y gall cerddoriaeth ei gynnig i ni mewn amseroedd anodd: amser i ffwrdd o’r byd i fyfyrio ac ymdeimlad dwfn o hud a lledrith.
Yn ychwanegiad diddorol i bythefnos Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, mae Richard yn rhoi’r cyffyrddiadau olaf ar y gosodwaith wrth i ni siarad, wythnos cyn i’r drysau agor, gartref yng Ngogledd Sir Benfro. Mae wedi bod yn un o hoelion wyth y sîn gerddoriaeth Gymreig ers pan oedd yn ei arddegau, fel rhan allweddol o un o grwpiau pop arbrofol mwyaf poblogaidd Cymru, Gorky’s Zygotic Mynci.
Ers symud i gerddoriaeth acwstig hyfryd mewn albymau unigol fel The Seven Sleepers Den yn 2006, mae ei gerddoriaeth wedi cynnwys archwilio cyfansoddi a gosodweithiau sain ehangach. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae wedi gweithio ar brosiect diddorol yn lleoliad cynhanesyddol Ogof Wogan o dan Gastell Penfro, ac fel rhan o Hotel El Al, gydag Angharad Van Rijswijk (Accü a Trwbador), gan ymateb yn fyw i arddangosfeydd gan Linder a Kameelah Janan Rasheed yn Oriel Glynn Vivian yn Abertawe.
Ar gyfer y gosodwaith yng Ngŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, roedd Richard yn benderfynol o beidio â dibynnu ar gerddoriaeth wedi’i recordio ymlaen llaw yn unig. “Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth a oedd yn cynnwys mwy o berfformiad byw, a oedd yn newid wrth i’r dydd droi’n nos.” Bydd yn cymryd recordiadau acwstig a wnaed yn Ogof Wogan ganddo fe ac Angharad Van Rijswijk a cherddorion gwych eraill o Gymru, gan gynnwys y canwr gwerin a’r gitarydd Gareth Bonello a’r cyfansoddwr a’r telynor byrfyfyr, Rhodri Davies, ac yn ychwanegu ei alawon syntheseisydd byw, dronau a dolenni ei hun.
Mae’r stori y tu ôl i brosiect Ogof Wogan yn perthyn yn agos i syniad Evolution of Beauty. Roedd Richard yn ystyried tarddiad creu cerddoriaeth gan bobl mewn ogofâu, a gwnaeth ymchwil i anthropoleg ac archaeoleg am sut esblygodd corff homo sapiens i wneud cerddoriaeth, a sut y creodd bodau dynol gerddoriaeth gyda’i gilydd trwy weithio cymunedol.
Gan gloddio’n ddwfn i ddiwylliannau cerddorol sydd wedi cael eu gwanhau neu wedi diflannu ers hynny, roedd hefyd yn ymddiddori mewn clywed recordiadau brodorol cynnar Awstralia a oedd â thebygrwydd â recordiadau o Frasil. “Roeddwn i’n meddwl a oedd gan y diwylliannau hyn wreiddiau cyffredin, neu a yw hynny oherwydd ein bod ni’n rhan o’r un rhywogaeth, yn ffisiolegol ac yn wybyddol, felly bydd tebygrwydd cerddorol yn esblygu oherwydd yr elfennau hynny. Mae’n ddifyr!”
Bydd cerddoriaeth fyw yn cylchdroi ac yn troelli o amgylch y byrfyfyriadau hyn, gan ddefnyddio soniaredd naturiol y Neuadd Farmor syfrdanol. “Bydd yn fath o gerddoriaeth sy’n cyfateb i ymweld ag oriel gelf,” eglura Richard. “Gallwch ddod i mewn, ymgolli yn y gerddoriaeth a’r sain, ac yna gadael – dewch i mewn ac allan fel y mynnwch.” Nid oedd eisiau llethu’r ystafell gyda sain chwaith, felly pan fyddant yn mynd i mewn, mae pethau’n dechrau’n ysgafn, a gall pobl aros am ychydig funudau neu ychydig oriau, gwrando’n astud, symud o gwmpas, neu eistedd a darllen. “Doeddwn i ddim eisiau i bobl gael eu hamgylchynu gan siaradwyr a theimlo fel eu bod wedi’u llyncu’n llwyr. Gallwch hefyd ddewis ble i sefyll neu eistedd – ac rydyn ni’n mynd i gael rhai clustogau ar y llawr hefyd!”
Mae Richard wedi cael “mwy a mwy o ddiddordeb” mewn cerddoriaeth offerynnol ffurf hir dros y blynyddoedd, meddai. Mae’n myfyrio’n gynnes ar y “chwaeth eang” a luniodd gynnyrch gwych Gorky’s Zygotic Mynci o’r 1990au cynnar i ganol y 2000au, “y ffordd y bydden ni i gyd yn eistedd i lawr a gwrando ar lawer o wahanol bethau roedden ni’n eu mwynhau’n fawr gyda’n gilydd”. Collodd yr “angerdd a’r cyffro” am ysgrifennu caneuon ar y gitâr ar ôl ei albymau unigol cyntaf, mae’n myfyrio, ac yn lle hynny dechreuodd gael diddordeb mewn integreiddio ei gariad at alawon a harmonïau pop gyda syniadau mwy hir.
Mae ei ysbrydoliaeth eang yn cynnwys y ddeuawd kosmische Almaenig Cluster o’r 1970au a’u grŵp gyda Michael Rother o Neu!, Harmonia, a weithiodd gyda Brian Eno ac a wnaeth gerddoriaeth electronica hardd, awyrgylchol, ailadroddus. “Fe wnaethon nhw ddangos i mi bethau amgen y gallech chi eu gwneud gyda sain, rhythm a cherddoriaeth ailadroddus estynedig a oedd hefyd yn cadw sensitifrwydd cerddoriaeth pop.” Erbyn heddiw, mae hefyd wrth ei fodd yn gwrando ar y cyfansoddwr Richard Skelton, yr orsaf radio ar-lein ar gyfer cerddoriaeth awyrgylchol dywyll Grey Clay Radio, a’r artist Mecsicanaidd Vica Pacheco, sy’n cyfuno, fel y disgrifia Richard, “cerddoriaeth werin o’r gorffennol pell gyda thechnoleg analog a digidol fodern”.
Bydd perfformiadau James yn y Deml Heddwch yn cynnwys dwy set tair awr a hanner o hyd, ill dwy yn ymgorffori 20 darn, a byddant yn esblygu mewn gwahanol ffyrdd drwy gydol y dydd. Ymwelodd â’r gofod am y tro cyntaf ychydig wythnosau yn ôl; mae’n dweud ei fod wedi gwneud iddo deimlo llawer o gynnwrf. “Roeddwn i wir eisiau cysylltu’r syniad pam y cafodd y deml ei hadeiladu yn y lle cyntaf ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf â’r hyn dw i’n ei wneud. Dw i wrth fy modd bod yna elfen fach o herfeiddiwch y tu ôl i’r hyn dw i’n ei wneud – dathlu holl lawenydd diwylliant arbrofol yn erbyn diflastod ffasgiaeth, a gwneud hynny mewn gofod sydd mor dda yn acwstig ac yn esthetig.”
Mae’r gosodwaith hefyd yn gweddu i enw’r prosiect. Mae’n dod o lyfr gan y biolegydd esblygiadol Richard Prum, sy’n ceisio deall neu unioni’r syniad o harddwch wrth ddenu partneriaid yn y deyrnas adar, ond mae Richard yn gobeithio y bydd pobl yn ei ddehongli mewn sawl ffordd eang. “Byddwn i wrth fy modd i bobl ddod draw a chymryd beth bynnag yw eu syniad o harddwch i’r syniad o gerddoriaeth, i fwynhau eu profiad arbennig eu hunain.”
Bydd Evolution of Beauty yn cael ei berfformio yn Nheml Heddwch Caerdydd ar 5, 6 ac 8 Hydref rhwng 1 ac 8pm.