Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2026 yn dod i ben ar nodyn uchel ar ôl denu miloedd o gefnogwyr cerddoriaeth i'r brifddinas
Dydd Llun, 19 Hydref 2026
Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd wedi dod i ben ar ôl trydedd flwyddyn hynod lwyddiannus, gan ddod ag eiconau llawn gweledigaeth, hen ffefrynnau, talent newydd a lleol, ynghyd â miloedd o gefnogwyr cerddoriaeth i leoliadau’r ddinas.
Yn ystod yr ŵyl bythefnos o hyd gwnaeth dros 100 o ddigwyddiadau gael eu cynnal mewn mwy nag 20 o leoliadau, yn cynnwys Canopi, Tramshed, Paradise Garden, District, Porter’s, y Globe, Acapela, CULTVR, Clwb Ifor Bach a Chanolfan Mileniwm Cymru.
Agorwyd yr ŵyl gyda pherfformiad unigryw gan yr hen arwyr lleol, Acid Casuals, yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a daeth i ben ar ôl pythefnos llawn dathlu hyd a lled ac amrywiaeth y sîn gerddoriaeth yng Nghaerdydd.
Dywedodd y Cyng Jennifer Burke, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau Cyngor Caerdydd: “Calon Caerdydd yw cerddoriaeth, a gallech chi glywed hynny’n blwmp ac yn blaen yn ystod yr ŵyl eleni. Yn ogystal â darparu profiadau bythgofiadwy i gynulleidfaoedd, mae’r ŵyl yn cefnogi ein lleoliadau annibynnol, yn creu cyfleoedd i artistiaid lleol ac yn taflu goleuni ar gryfder anhygoel sîn gerddoriaeth Caerdydd.”
Dywedodd Heledd Fychan, Gweinidog Cabinet Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant a Chwaraeon: “Mae Gŵyl Ddinas Gerdd Caerdydd yn dangos y gorau o’r hyn sydd gan brifddinas Cymru i’w gynnig fel canolfan fywiog a hanfodol i gerddoriaeth – a dyna pam rydyn ni wedi cefnogi’r ŵyl eleni, gan helpu i arddangos y dalent anhygoel sydd i’w gweld ar draws ein sîn gerddoriaeth, o artistiaid ar lawr gwlad i enwau o fri rhyngwladol. Mae’r buddsoddiad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi ein sector cerddoriaeth fyw, cefnogi lleoliadau annibynnol a sicrhau bod Caerdydd yn parhau i gael ei chydnabod fel dinas gerddoriaeth wirioneddol ar lwyfan y byd.”
Bellach yn ei thrydedd flwyddyn, daeth yr ŵyl â rhai o brif ddigwyddiadau cerddoriaeth Cymru at ei gilydd unwaith eto, gyda Sŵn, Llais a Gwobr Gerddoriaeth Gymreig i gyd yn rhan o’r rhaglen ochr yn ochr â digwyddiadau wedi’u curadu’n arbennig ar draws canol y ddinas a Chaerdydd ehangach.
Roedd yr uchafbwyntiau yn cynnwys Dafydd Owain yn derbyn Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, perfformiad cyntaf erioed yng Nghymru gan yr eiconig Laurie Anderson yn Llais, ynghyd â setiau Gŵyl Sŵn gan artistiaid gan gynnwys Dove Ellis, a enwebwyd am wobr Mercury 2026, Working Men’s Club, Westside Cowboy, Bathing Suits a Honeyglaze. Yn y Gate, roedd Melin Melyn ar frig rhaglen llawn talent Gymreig gan gynnwys Morn a Internet Fatigue tra bod diwylliant pync DIY yn cael sylw yn Arthole.
Roedd rhaglen lawn o ddigwyddiadau hefyd gan gynnwys gosodwaith sain saith awr yn y Deml Heddwch, paneli diwydiant a dosbarthiadau meistr yn cynnwys y grŵp ôl-bync o Fryste, Getdown Services, Kayus Bankole o Young Fathers, a gitarydd yr Idles, Lee Kiernan.
Dychwelodd Marchnad Nos Dinas Gerdd Caerdydd hefyd, gan drawsnewid marchnad ganolog hanesyddol Caerdydd yn ganolfan gerddoriaeth gyda’r nos gydag orsaf radio amgen leol Radio Sudd yn rhaglennu tair noson o DJs a cherddoriaeth fyw gan gynnwys Panic Shack, The Orielles, John Mouse a Cerys Hafana.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn rhan allweddol o strategaeth hirdymor Dinas Gerdd y ddinas sydd wedi gweld y Cyngor yn darparu cyllid grant i leoliadau ar lawr gwlad Caerdydd, datblygu cynlluniau i annog hyrwyddwyr newydd, cefnogi artistiaid a cherddorion gyda grantiau, gweithio mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth ar gynllun i ddarparu offer llinell gefn o ansawdd uchel i leoliadau ar lawr gwlad, sicrhau dyfodol Neuadd Dewi Sant, a chefnogi’r gwaith o gyflawni’r Arena newydd ym Mae Caerdydd.
Bydd yr ŵyl yn dychwelyd am ei phedwaredd flwyddyn yn hydref 2027.