Dadorchuddio gwaith celf newydd o eiriau’r Manic Street Preachers ar Stryd Womanby
Dydd Iau, 15 Hydref 2026
Mae gwaith celf cyhoeddus trawiadol newydd yn cynnwys geiriau gan y Manic Street Preachers wedi’i ddadorchuddio yng nghanol sîn gerddoriaeth annibynnol Caerdydd ar Stryd Womanby.
Wedi’i greu yn ystod Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd gan yr artist o fri rhyngwladol o Gymru, Sean Edwards, mae’r gosodiad yn cynnwys y llinell: “I prefer the mirror to the screen, helps me understand the way I feel” o’r gân Deleted Scenes gan y Manic Street Preachers.
Y gwaith celf newydd yw’r cyntaf mewn cyfres o osodiadau sy’n seiliedig ar eiriau sy’n dathlu cerddoriaeth a chreadigrwydd Cymru, fydd yn ymddangos yn raddol ledled y ddinas, ac mae’n rhan o waith Cyngor Caerdydd i wneud cerddoriaeth yn ganolog i ddyfodol Caerdydd.
Magwyd Sean Edwards yn Llanedern. Cafodd ei ddewis i gynrychioli Cymru yn Biennale Fenis 2019 ac yn 2020 enillodd Fwrsariaeth Gwobr Turner. Mae ei waith wedi cael ei arddangos yn helaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynnwys arddangosfeydd unigol diweddar yn Nulyn, Berlin ac yng Nghaerdydd, yn Amgueddfa Cymru.
Wrth siarad am y gosodiad newydd, dywedodd: “Mae’n golygu llawer i gael gwahoddiad i weithio gyda’r geiriau hyn gan y Manic Street Preachers mewn gofod mor amlwg ar gyfer cerddoriaeth ar lawr gwlad yn fy nhref enedigol, ac fel rhan o ŵyl sy’n dathlu’r sîn honno.
“Pan ges i’r cynnig i weithio gyda’r geiriau, roedd yn serendipaidd gan fod y llinell benodol honno a’r gân o’r albwm diweddaraf yn taro tant gyda fi. Fel ffan o’r Manics, mae cael y cyfle i blethu geiriau Nicky yn fy ngwaith wedi gwireddu breuddwyd.”
“Rwy’n gobeithio y bydd yn creu cysylltiad gyda llawer o bobl. Mae’r dyluniad yn gosod y gwaith fel hen arwydd – fel petai bob amser wedi bod yn bresennol, yn siarad â ni am ein dyfodol tra’n ymddangos fel pe bai’n siarad o’r gorffennol, gan adleisio galwad y geiriau i ni edrych ar ein hunain.”
Wedi’i gyflwyno gyda bendith y Manic Street Preachers, mae’r gwaith celf i’w weld ar Stryd Womanby, gyferbyn â murlun poblogaidd Gwenno a gyflwynwyd gan Gyngor Caerdydd gyda’r artistiaid Mark James a Bradley Woods yn 2015. Tyfodd y syniad cychwynnol ar gyfer prosiect Dinas Gerdd Caerdydd gan ddefnyddio geiriau o sgwrs gyda’r asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus o Gaerdydd, Working Word.
Dewiswyd geiriau’r Manic Street Preachers ar gyfer y gosodiad cyntaf gan Guradur Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, Ruth Cayford, a ddywedodd: “Mae geiriau’r Manic Street Preachers bob amser wedi bod yn llawn sylwebaeth gymdeithasol a gallai cymaint ohonynt fod wedi cael eu dewis, ond mae’r geiriau hyn gan Nicky Wire yn sefyll allan i fi.
“Rydyn ni’n siarad am osodiadau yn y dyfodol yn barod – ac nid fi fydd yn dewis y geiriau i gyd. Rydyn ni’n mynd i fod yn gofyn i lawer o bobl wahanol sy’n gysylltiedig â’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru i ddewis y geiriau a gweithio gyda mwy o artistiaid gwych i ddod â nhw’n fyw.”
Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau Cyngor Caerdydd: “Mae Stryd Womanby yn chwarae rôl mor bwysig yn y sîn gerddoriaeth ar lawr gwlad Caerdydd ac mae’r Manic Street Preachers yn un o fandiau pwysicaf a mwyaf dylanwadol Cymru, felly mae’n briodol eu bod wedi dod ynghyd ar gyfer gwaith celf geiriau cyntaf y ddinas.”
“Mae cerddoriaeth yn ganolog i’n gweledigaeth ar gyfer dyfodol Caerdydd. Trwy Dinas Gerdd Caerdydd, rydym yn darparu cyllid a chefnogaeth i leoliadau ar lawr gwlad, gan helpu i feithrin talent newydd, dod â miloedd o bobl sy’n hoff o gerddoriaeth i’r ddinas i fwynhau Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd a chyda’r gweithiau celf newydd hyn, defnyddio diwylliant a chreadigrwydd i gryfhau hunaniaeth y ddinas fel cyrchfan gerddoriaeth flaenllaw.”
Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn para tan 17 Hydref. Bydd yr ŵyl yn dwyn ynghyd Gŵyl Sŵn, Llais, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig a rhaglen amrywiol o berfformiadau, sgyrsiau, digwyddiadau untro, arddangosfeydd a digwyddiadau arbennig mewn lleoliadau ar draws prifddinas Cymru. Mae’r ŵyl yn ddathlu pŵer cerddoriaeth i uno ac ysbrydoli.