Llais yn dychwelyd ar gyfer Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2026

7 – 11 Hydref
Byd o leisiau unigryw. Perfformiadau rhyfeddol. Darganfyddiadau annisgwyl.

Digwyddiadau LLAIS 2026

BETH YW LLAIS?

Mae Llais yn archwiliad wythnos o hyd o gerddoriaeth, perfformio ac adrodd straeon, i gyd yn canolbwyntio ar yr offeryn mwyaf pwerus sydd gennym i gyd yn gyffredin: y llais dynol.

O hud Mali a meistrolaeth leisiol arloesol Efrog Newydd, i chwedlau cerddoriaeth ‘indie’ Cymru, jazz Mongoliaidd, disco Gospel, harmonïau Gwyddelig hudolus ac avant-pop Guatemalaidd – mae Llais yn lle i ddarganfod sain heb ffiniau.

Nid gŵyl yn unig yw hon. Mae’n arddangosfa o’r offeryn mwyaf pwerus sydd gennym i gyd yn gyffredin: ein llais.

Mae Llais yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Cardiff Music City: dathliad pythefnos o hyd sy’n cynnwys gigs, digwyddiadau, gosodiadau a digwyddiadau dros dro, gan harneisio pŵer cerddoriaeth, perfformio a thechnoleg i uno ac ysbrydoli.

“Mae Llais yma i faethu eich enaid mewn ffyrdd na all unrhyw algorithm eu gwneud. Mae’r artistiaid hyn yn real, yn perfformio’n fyw ac yn heriol. Ewch ar daith oddi ar y llwybr arferol ac archwiliwch rai o’r lleisiau gorau ar y blaned.”

– Graeme Farrow, Prif Swyddog Creadigol a Chynnwys Canolfan Mileniwm Cymru