Atgofion o gigiau, lleoliadau eiconig a thrac sain dinas: Arddangosfa newydd yn dathlu stori cerddoriaeth fyw Caerdydd

Dydd Gwener, 9 Hydref 2026


 

Cerddoriaeth yw calon Caerdydd ac er bod artistiaid eiconig, ffefrynnau poblogaidd a thalent leol yn ganolog i Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, mae mwy na 70 o straeon sy’n dathlu treftadaeth gerddorol gyfoethog y ddinas yn sêr arddangosfa newydd sy’n agor yn Hyb y Llyfrgell Ganolog.
Mae Ein Dinas, Ein Straeon yn benllanw prosiect hanes llafar sy’n pontio’r cenedlaethau a ariennir drwy grant Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwylliant. Mae’r prosiect wedi dod â thrigolion iau ac hŷn Caerdydd at ei gilydd i rannu a chofnodi atgofion o dreftadaeth gerddorol gyfoethog y ddinas, o berfformiadau chwedlonol gan The Beatles a The Clash i leoliadau eiconig fel y Top Rank Suite, a’r caneuon, yr artistiaid ac eiliadau sydd wedi helpu i lunio bywydau pobl.

Yn rhan o raglen Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd sy’n cynnwys sgyrsiau, barddoniaeth, gosodwaith, ffotograffiaeth a dangosiadau ffilm, yn ogystal â cherddoriaeth, bydd yr arddangosfa am ddim ar agor i’r cyhoedd rhwng 12 a 24 Hydref.

Bydd ymwelwyr yn gallu clywed darnau o ddeg o recordiadau hanes llafar dethol trwy arddangosfa sain ryngweithiol, tra bydd cyfweliadau llawn ar gael trwy dâp retro a dyfeisiau gwrando Walkman.

Bydd fideo hyrwyddo byr a gomisiynwyd yn arbennig sy’n archwilio’r straeon a’r lleoliadau sy’n ymddangos yn y prosiect hefyd ar gael i’w wylio. Bydd copïau o bosteri gigs hanesyddol, tocynnau a memorabilia eraill hefyd yn helpu i ddod â gorffennol cerddorol Caerdydd yn fyw.

Gan adlewyrchu amrywiaeth cymunedau a dylanwadau cerddorol Caerdydd, mae’r straeon yn cynnwys atgofion o artistiaid a digwyddiadau fel The Beatles, The Clash, The Waterboys, Patti Smith, Carnifal Butetown a cherddoriaeth werin Cymru.

Wedi’i lansio yn gynharach eleni, gwahoddodd y prosiect wirfoddolwyr iau i gyfweld â thrigolion hŷn am eu profiadau o gerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd. Derbyniodd cyfranogwyr hyfforddiant mewn technegau hanes llafar a sgiliau recordio, gan helpu i gadw straeon a fyddai fel arall wedi cael eu colli. Bydd y cyfweliadau yn ffurfio archif barhaol drwy Gasgliad y Werin Cymru ac Archifau Morgannwg.

Cofrestrodd dros 100 o bobl i wirfoddoli fel rhan o’r prosiect, gan gyfrannu dros 500 o oriau gwirfoddoli. Derbyniodd pum deg pump o wirfoddolwyr hyfforddiant, gydag eraill yn helpu i ymchwilio i leoliadau a memorabilia, cefnogi gweithdai ysgol, darparu cyfieithiadau, creu gwaith celf a chynhyrchu ffilm sy’n cofnodi’r prosiect.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lee Bridgeman: “Mae ein hybiau cymunedol yn ganolog i fywyd cymdogaeth yng Nghaerdydd, gan ddod â phobl at ei gilydd, darparu mynediad at wasanaethau a chreu cyfleoedd i ddysgu, cysylltu a rhannu profiadau. Dyna pam mai Hyb y Llyfrgell Ganolog yw’r lle perffaith i arddangos Ein Dinas, Ein Straeon.

“Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys atgofion, lleisiau a phrofiadau trigolion Caerdydd, gan warchod rhan bwysig o dreftadaeth ddiwylliannol y ddinas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n enghraifft ragorol o’r ffordd y gall ein hybiau gefnogi cymunedau i ddathlu eu hanes, adrodd eu straeon a chryfhau cysylltiadau rhwng pobl o bob oedran.”

Dywedodd Curadur Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, Ruth Cayford: “Mae cerddoriaeth yn ymwneud â mwy na’r artistiaid ar y llwyfan. Mae’n ymwneud â chynulleidfaoedd a’r cysylltiadau y mae’n eu creu rhwng pobl a chymunedau. Mae Ein Dinas, Ein Straeon yn dathlu’r pŵer hwnnw trwy gasgliad diddorol o atgofion sy’n rhychwantu cenedlaethau, genres a chymunedau.

“Mae’r arddangosfa yn gyfle unigryw i ddarganfod y bobl, y lleoedd a’r eiliadau sydd wedi ffurfio hunaniaeth ddiwylliannol Caerdydd ac wedi helpu i’w gwneud yn un o ddinasoedd cerddoriaeth mwyaf bywiog y DU. Byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth, hanes lleol neu gymunedau Caerdydd i ddod draw i brofi’r straeon hyn drostynt eu hunain.”

Bydd yr arddangosfa yn cael ei chynnal ar drydydd llawr y Llyfrgell Ganolog ac mae mynediad am ddim. Ar ôl ei chyfnod yn Hyb y Llyfrgell Ganolog, bydd fersiynau llai o’r arddangosfa yn teithio i hybiau cymunedol ledled y ddinas, gyda mwy o fanylion i’w cyhoeddi maes o law.

Cefnogir Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd (2 – 17 Hydref) gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.