JayaHadADream

Dyddiad(au)

11 Hyd 2026

Amseroedd

19:00

Lleoliad

The Globe, 125 Albany Road, Caerdydd, CF24 3N

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae JayaHadADream yn dod â’i band byw llawn i The Globe yng Nghaerdydd ar gyfer sioe arbennig Tân Cerdd × Cardiff Music City yn rhan o Fis Hanes Pobl Dduon.

Mae Tân Cerdd × Cardiff Music City yn cyflwyno JayaHadADream yn fyw gyda band llawn yn The Globe, Caerdydd, ar gyfer prif sioe arbennig yn rhan o Fis Hanes Pobl Dduon.

Mae’r rapiwr JayaHadADream – sy’n hanu o Gaergrawnt ac o dras Jamaicaidd-Wyddelig – yn un o’r lleisiau mwyaf cyffrous sy’n dod i’r amlwg ym myd rap y DU; mae hi’n adnabyddus am ei geiriau myfyriol, ei dull gonest o adrodd straeon a’i sain bwerus sydd wedi’i gwreiddio mewn grime a hip-hop.

Daeth ei thorriad mawr yn 2024 pan enillodd gystadleuaeth ‘Emerging Talent’ Gŵyl Glastonbury; cafodd ei dewis o blith miloedd o ymgeiswyr ac enillodd gyfle i berfformio ar un o brif lwyfannau’r ŵyl, yn ogystal â gwobr Datblygu Talent Sefydliad PRS gwerth £5,000.

Ers hynny, mae Jaya wedi perfformio ar rai o lwyfannau cerddoriaeth mawr y DU, gan gynnwys Glastonbury, Reading, Leeds, Boomtown a SXSW Llundain, gyda’i cherddoriaeth a’i pherfformiadau yn cael cefnogaeth ar BBC Radio 1, BBC 1Xtra ac yn y cyfryngau cerddoriaeth blaenllaw yn y DU.

Yn 2025, enillodd ddwy wobr Youth Music — ‘Rising Star’ (Artist) a ‘Lyricist’ (Awdur Geiriau) — a chafodd ei henwi’n ‘Best Breakthrough MC/Vocalist’ yng ngwobrau ‘Best of British’ DJ Mag. Mae ei llwyddiant parhaus hefyd wedi arwain at ei henwebu ar gyfer y wobr ‘Best Grime Act’ yng ngwobrau MOBO.