BARN

Jude Rogers
Awdur, ysgrifennwr, newyddiadurwr, darlledwr ac ymgynghorydd creadigol, ysgrifennu ar gyfer Dinas Gerdd Caerdydd.

Dydd Mer, 1 Hyd 2026

Meddyliwch am ddinas brysur, gyffrous ac fe feddyliwch chi am gerddoriaeth: pwls yn curo o dan y ddaear, yn teithio trwy’r strydoedd a’r parciau, yn dod â phobl at ei gilydd mewn cymaint o leoliadau, yn eu cario ar rythmau bas a riffiau, yn codi eu lleisiau mewn bwâu o harmonïau ac alawon cyffrous.

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn enfawr i gerddoriaeth yng Nghaerdydd, ac mae’n amlwg bod y byd tu fas yn gwrando. Rydyn ni wedi croesawu taith fyd-eang Oasis a sêr enfawr gan gynnwys Stevie Wonder, Alanis Morissette a The Cure i’n lleoliad nodedig newydd, Caeau’r Gored Ddu. Yr haf hwn yn unig, mae Castell Caerdydd wedi rhoi llwyfan i fwy na 24 o artistiaid rhyngwladol, gan gynnwys sioeau arloesol gan David Byrne a Self Esteem. Syfrdanodd Kendrick Lamar, SZA a Metallica y torfeydd yn Stadiwm y Principality, gan werthu pob tocyn wrth gwrs, a dychwelodd tywysogion amgen Cymru, y Super Furry Animals, i lwyfan Arena Utilita.

Mae’r momentwm anhygoel hwn yn parhau ym mis Hydref gyda thrydedd Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, sydd eto’n bythefnos o hyd. Bydd hyd yn oed mwy o hoff leoliadau ein dinas yn denu sylw, gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru. Eleni, mae’n croesawu hyd yn oed mwy o artistiaid o fri rhyngwladol i’r wythfed rhifyn o Llais, wythnos o gyfarfyddiadau cerddorol rhyfeddol a chydweithrediadau annisgwyl. Yn eu plith mae’r arloeswr avant-garde Laurie Anderson, sy’n perfformio yng Nghymru am y tro cyntaf gyda sioe newydd sbon, Friends and Teachers; Buena Vista All Stars ac Orchestra Baobab, sy’n dod at ei gilydd mewn dathliad sonig o Giwba a Gorllewin Affrica; a’r Blind Boys of Alabama, gyda’u cerddoriaeth efengyl ac enaid ysblennydd yn asio â sain y London African Gospel Choir mewn perfformiad Graceland gan Paul Simon.

Yng nghanol y mis, bydd dros 150 o artistiaid yn gorchfygu’r ddinas ar gyfer penwythnos Gŵyl Sŵn, sydd bob amser yn llawn cyffro. Bydd rhai o artistiaid amgen mwyaf y wlad – yn eu plith Westside Cowboy, Dove Ellis a Working Men’s Club – yn perfformio mewn lleoliadau gan gynnwys Clwb Ifor Bach, Cornerstone, Tramshed, Fuel Bar, Tiny Rebel a Jacob’s Basement.

Trwy gydol mis Hydref, bydd y ddinas yn dathlu egni diwylliant Cymru mewn ffyrdd cyffrous.  Bydd yr enwebeion Gwobr Mercury, Gwenno a’r Joe Webb Trio, yn ymuno ar gyfer cyngerdd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a fydd hefyd yn croesawu Acid Casuals, sy’n dathlu 20 mlynedd o’u halbwm clodwiw Omni. Bydd sioeau gan yr arloeswr gwerin Cerys Hafana, y rhyfeddodau seic-pop Melin Melyn a’r rocwyr trwm Morn. Gallwch hefyd weld gosodiad ymdrochol Richard James, Evolution of Beauty, yn y Deml Heddwch, Radio Sudd yn cymryd yr awenau ym Marchnad Nos Dinas Gerdd Caerdydd, a pherfformiadau arbennig i nodi 25 mlynedd o’r gydweithfa celf arbrofol o Gaerdydd, tactileBOSCH.

Mae Caerdydd yn ddinas lle mae cymaint o wahanol fathau o gerddoriaeth yn cael eu llwyfannu, eu gwerthfawrogi a’u dathlu, ond lle mae’r elw o’i llwyddiannau’n cael ei fwydo’n ôl i’r gymuned. Mae partneriaeth Cyngor Caerdydd gyda Music Venue Trust wedi ffrydio elw o gigs mwy o faint i gynnig cefnogaeth ariannol gydag offer rhes gefn mewn lleoliadau llai. Mae’r Gronfa Lleoliadau Llawr Gwlad hefyd wedi cynnig cefnogaeth bellach i leoliadau cerddoriaeth annibynnol, tra bod rhaglen datblygu talent Cyngor Caerdydd, Gigs Bach, wedi dod â phrofiadau cerddorol i mewn i ysgolion, gan ddangos i bobl ifanc sut y gall creadigrwydd a pherfformiad gyfoethogi eu bywydau.

Yn ein dinas brysur, egnïol, ein huchelgais yw cefnogi a dathlu artistiaid a ffans cerddoriaeth heddiw a fory. Ni ddylai cerddoriaeth fod yn gefnlen i fywyd; dylai hawlio lle wrth ei wraidd. Dylai fod yn guriad calon i’n holl ecosystem.