Local, Dafydd Owain ac Adjua ymhlith wyth o artistiaid sy’n barod i oleuo llwyfan seremoni Gwobr Gerddoriaeth Gymreig
Tuesday, 22 September
Datgelu perfformwyr byw ar gyfer sioe Canolfan Mileniwm Cymru ynghyd ag enillwyr gwobrau
Mae perfformiadau byw gan rhai o artistiaid newydd ac sefydledig mwyaf cyffrous Cymru wedi’u cyhoeddi fel rhan o’r Gwobr Gerddoriaeth Gymreig eleni (7 Hydref 2026) yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fel rhan o Llais a Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.
Mae’r ymgeiswyr am y tro cyntaf, y canwr-cyfansoddwr ffync-soul Adjua a’r rapiwr o Gaerdydd Local, yn ymuno â’r cyfansoddwr gwerin-roc Dafydd Owain a’r ffenomen acwstig Gwenifer Raymond ymhlith yr artistiaid ar y rhestr fer sy’n perfformio yn y seremoni – ac gall dilynwyr cerddoriaeth fod yno, gyda thocynnau ar gael yma am ddim ond £10, ac fe fydd y cyfan yn cael ei ddarlledu’n fyw ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.
Mae’r pedwar artist yma yn rhan o restr fer o 15 o albymau o’r flwyddyn ddiwethaf a wnaed yng Nghymru neu gan bobl o Gymru ar draws y byd – a bydd un ohonynt yn mynd adref gyda Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, ynghyd â gwobr o £10,000.
Dan arweiniad cyflwynydd BBC Radio 1 Sian Eleri, bydd y seremoni hefyd yn gweld cyflwyno Gwobr Trisgell i’r artistiaid newydd Mwsog, Casual Smart, a Betsan.
Mae Mwsog, sy’n disgrifio eu hunain fel ‘swynwyr gwerin-roc’, yn fand o saith sydd newydd gyrraedd y sîn gyda Chwymp Cosmig. Casual Smart, rocwyr ystafell wely lo-fi Caerdydd, yw’r rhai diweddaraf i gipio calonnau yn maes chwarae indie ffynheddus y brifddinas. Mae Betsan, cerddor jazz-pop dwyieithog sy’n hanu o Gaerdydd, wedi treulio’r flwyddyn hyd yn hyn yn meithrin ei lle yn y sîn pop.
Mae’r ddeuawd R&B Papaya Noon wedi’u dewis i dderbyn gwobr Cronfa PPL Momentum Sbardun | Accelerator eleni. Mae’r ddeuawd eisoes wedi casglu sylfaen ddilynwyr trawiadol ar-lein, gan ennill dros 80,000 o ddilynwyr ar draws eu sianeli cymdeithasol, a derbyn canmoliaeth gan enwogion yn UDA fel Missy Elliot, Snoop Dogg a Queen Latifah. Rhedir y gronfa gan Sefydliad PRS mewn partneriaeth â PPL a Cymru Greadigol, ac mae’n cynnig grantiau ar gyfer recordio, teithio a marchnata i artistiaid sy’n torri trwy i lefel nesaf eu gyrfaoedd.
Dywedodd Prif Swyddog Aelodaeth a Phobl PPL, Kate Reilly: “Rydym wrth ein bodd yn cefnogi Gwobr Gerddoriaeth Gymreig unwaith eto, sy’n parhau i fynd o nerth i nerth. Mae rhestr fer eleni yn arddangos ehangder anhygoel y talent ar draws Cymru ac yn cydnabod y creadigrwydd a’r gwreiddioldeb sy’n gwneud ei sîn gerddorol mor fywiog. Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu’r holl ymgeiswyr mis nesaf.”
Wrth siarad am y leinup fyw eleni, dywedodd cyd-sylfaenydd y wobr Huw Stephens: “Mae’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn dystiolaeth o greadigrwydd y genedl, ac erbyn hyn yn un o ddigwyddiadau mawr y flwyddyn i ddathlu amrywiaeth gyfoethog ac ansawdd eithriadol cerddoriaeth o Gymru. Mae line up eleni yn gyffrous iawn, gan gyflwyno lineup sy’n tynnu sylw at y bandiau sy’n dod i’r amlwg ac sydd wedi ennill Gwobrau Trisgell, ynghyd â’r artistiaid sydd ar y restr fer am wobr yr albwm. Dewch draw, neu gwrandewch ar y radio, bydd hi’n noson wych.”
Wrth siarad ar ran Gŵyl Dinas Cerddoriaeth Caerdydd, meddai’r Cynghorydd Jennifer Burke, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth: “Mae’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn arddangos y gorau o sîn gerddoriaeth Cymru – mae’n gyfle gwych i artistiaid ehangu eu cynulleidfa ac i gefnogwyr ddod o hyd i gerddoriaeth newydd i’w mwynhau. Dyna pam rydyn ni’n ei chefnogi, a pham rydyn ni mor falch ei bod yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.
Dywedodd John Hendrickse, Rheolwr Grantiau a Rhaglenni yn Sefydliad PRS: “Rydym wrth ein bodd bod yn rhan o’r Gwobr Gerddoriaeth Gymreig unwaith eto ac yn dathlu ein menter PPL Momentum Sbardun Accelerator yn seremoni wobrwyo eleni. Tro ar ôl tro mae Cymru’n cynhyrchu cerddoriaeth anhygoel ac mae Sefydliad PRS yn falch o gael record draciol gref o fuddsoddi yn nifer o’r artistiaid hyn cyn iddynt fynd ymlaen i lwyddiant yn y dyfodol. Eleni yn unig, mae 9 o’r 15 albwm a enwebwyd am y Gwobr Gerddoriaeth Gymreig wedi dod gan artistiaid sydd wedi cael cefnogaeth Sefydliad PRS ar eiliadau tyngedfennol yn eu gyrfa, gan gynnwys 4 a dderbyniodd ein PPL Momentum Sbardun Accelerator. Rydym yn dymuno pob lwc i’r holl enwebion ar y noson ac yn edrych ymlaen yn fawr at weld albwm pwy fydd yn derbyn y wobr.”
Rhestr Perfformio Gwobr Gerddoriaeth Gymreig
- Adjua
- Local
- Dafydd Owain
- Gwenifer Raymond
- Mwsog
- Casual Smart
- Betsan
- Papaya Noon
Mae tocynnau ar gael yma am £10 i oedolion / £8 i rai dan 30 mlwydd oed.
Rhestr Fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2026:
- ADJUA – Everything Is Beautiful
- Aleighcia Scott – Taith
- Ani Glass – Phantasmagoria
- Art School Girlfriend – Lean In
- Cerys Hafana – Angel
- CHROMA – 25 Forever
- Dafyd Owain – Ymarfer Byw
- Dewin – Dan y Dderwen
- Gruff Rhys – Dim Probs
- Gwenifer Raymond – Last Night I Heard the Dog Star Bark
- Local – Too Broke to Be This Busy
- Mari Mathias – Cyfarwydd
- Skindred – You Got This
- The Bug Club – Every Single Muscle
- The Royston Club – Songs For The Spine