Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2026: Enwebeion gwobrau Mercury, perfformiadau unigryw a chreadigrwydd llawr gwlad yn dod ynghyd ledled y ddinas

Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2026: Enwebeion gwobrau Mercury, perfformiadau unigryw a chreadigrwydd llawr gwlad yn dod ynghyd ledled y ddinas

Bydd tri enwebai Gwobr Mercury, perfformiadau unigryw yn y Deyrnas Unedig, digwyddiadau ymdrochol a rhaglen sy’n cynnwys popeth o gigs llawr gwlad i artistiaid rhyngwladol mawr yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2026.

Yn dychwelyd rhwng 2 Hydref a 17 Hydref, bydd Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd unwaith eto yn cynnwys Gŵyl Sŵn, Llais, y Wobr Gerddoriaeth Gymreig a rhaglen amrywiol o berfformiadau, sgyrsiau, safleoedd dros dro, arddangosfeydd a digwyddiadau arbennig mewn lleoliadau ar draws prifddinas Cymru. Mae’r ŵyl yn rhan allweddol o strategaeth Dinas Gerdd Caerdydd ac mae’n dathlu pŵer cerddoriaeth i uno ac ysbrydoli.

Bydd y rhaglen eleni yn cynnwys perfformiadau gan Dove Ellis, a enwebwyd ar gyfer Gwobr Mercury 2026, a’r pianydd jazz Joe Webb a enwebwyd yn 2025 ac a fydd yn ymddangos mewn digwyddiad arbennig, wedi’i guradu ar gyfer yr ŵyl gan y ddarlledwraig o’r BBC, Bethan Elfyn, ochr yn ochr â Gwenno, a enwebwyd ar gyfer Gwobr Mercury 2022.

Bydd yr arloeswr hip-hop a trip-hop o Ffrainc, Wax Tailor, hefyd yn ymddangos yn yr ŵyl, gan wneud ei unig ymddangosiad yn y Deyrnas Unedig yn 2026 o dan y gromen ymdrochol yn CULTVR.

Bydd prif ddigwyddiadau’r ŵyl, Sŵn a Llais, yn arddangos artistiaid o Gymru a ledled y byd, tra bydd rhaglen lawn o brofiadau unigryw yn trawsnewid lleoliadau ledled y ddinas. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae gosodwaith ymdrochol Richard James Evolution of Beauty yn y Deml Heddwch, perfformiadau arbennig i nodi 25 mlynedd o’r grŵp celf arbrofol o Gaerdydd tactileBOSCH, archwiliad o ddylanwad y mudiad Punkhouse Americanaidd yng Nghymru, dychweliad sesiwn arbennig Marchnad Nos Caerdydd Dinas Gerdd Caerdydd gyda Radio Sudd, hyb yr ŵyl yn Lolfa Canopi, ac amrywiaeth o sgyrsiau, cynadleddau a chynulliadau creadigol gan y diwydiant.

 

Gall cynulleidfaoedd hefyd brofi perfformiadau gan artistiaid sy’n enwog yn rhyngwladol gan gynnwys y cerddor avant-garde o Efrog Newydd – Laurie Anderson – yn rhan o Llais, talent Cymreig sy’n dod i’r amlwg gan gynnwys Morn a Cerys Hafana, ffefrynnau 6Music – Adult DVD a Honeyglaze, digwyddiadau arbennig – gan gynnwys perfformiad unigryw ar y noson agoriadol gan y grŵp Cymreig Acid Casuals i ddathlu 20 mlynedd o’u halbwm clodwiw Omni, yn ogystal â chyweithiau arloesol yn digwydd mewn lleoliadau sy’n amrywio o fannau cerddoriaeth llawr gwlad i sefydliadau diwylliannol mawr.

Dros fwy na phythefnos, bydd Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn dod ag artistiaid sefydledig ac artistiaid sy’n dod i’r amlwg, arweinwyr y diwydiant, ffans cerddoriaeth a chymunedau lleol ynghyd, gan greu cyfleoedd i ddod o hyd i gerddoriaeth newydd, rhannu profiadau a chysylltu drwy ddiwylliant.

Dywedodd Curadur Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, Ruth Cayford: “P’un a yw’n enwebeion Gwobr Mercury, arwyr fel Laurie Anderson, un o’r nifer o artistiaid anhygoel sy’n dod o Gymru ar hyn o bryd, y profiadau cerddoriaeth ymdrochol a’r perfformiadau unigryw rydym wedi’u cynllunio, mae’r rhaglen eleni wir yn arddangos yr holl greadigrwydd sy’n bodoli ar draws cerddoriaeth gyfoes.

“Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i annog darganfod. Ar ôl cyfres lwyddiannus o ddigwyddiadau cerddoriaeth awyr agored yn y ddinas dros yr haf, rydym yn symud y ffocws i’n lleoliadau dan do poblogaidd. Does dim gwahaniaeth p’un a yw pobl yn dod ar gyfer Sŵn, Llais, y Wobr Gerddoriaeth Gymreig neu un o’n digwyddiadau arbennig niferus, byddant yn rhan o ddathliad ledled y ddinas sy’n cysylltu artistiaid, cynulleidfaoedd a chymunedau trwy gerddoriaeth.”

Mae’r ŵyl hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad Caerdydd i gefnogi cerddoriaeth ar bob lefel, o feithrin talent y dyfodol i gryfhau seilwaith llawr gwlad y ddinas.

 

Mae’r mentrau sy’n rhan o strategaeth Dinas Gerdd Caerdydd yr awdurdod lleol yn cynnwys:

  • rhaglen datblygu talent ‘Gigs Bach’ sy’n dod â phrofiadau o gerddoriaeth fyw i ysgolion ac yn darparu cymorth i ddisgyblion drwy gyfnodau cynnar eu gyrfaoedd cerddorol ac ar lwyfannau gwyliau.
  • Cronfa Lleoliadau Llawr Gwlad y ddinas, sy’n darparu cymorth ariannol ymarferol ar gyfer mannau cerddoriaeth annibynnol.
  • partneriaeth newydd arloesol gyda’r Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth a arweiniodd at Gyngor Caerdydd yn defnyddio incwm o gigs mawr ym mharciau’r ddinas i ariannu’r Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth yn uniongyrchol a darparu offer rhes gefn i leoliadau llawr gwlad y ddinas.

 

Gyda’i gilydd, mae’r mentrau hyn yn helpu i sicrhau bod artistiaid yn gallu datblygu eu gyrfaoedd yng Nghaerdydd tra bod cynulleidfaoedd yn parhau i elwa o sîn gerddoriaeth fyw ffyniannus ac amrywiol.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke: “Mae sîn gerddoriaeth Caerdydd yn arbennig, a byddwn yn parhau i wneud cymaint ag y gallwn i’w helpu i barhau i ffynnu.

“Mae’r ŵyl yn dod ag ecosystem gerddorol gyfan y ddinas at ei gilydd – mae’n ddathliad gwych o’r doniau a’r creadigrwydd sydd gennym yma ac yn gyfle gwych i ddod o hyd i gerddoriaeth newydd a chefnogi lleoliadau lleol.”

Cefnogir Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.