Gosodiad sain saith awr i drawsnewid Teml Heddwch Caerdydd

Bydd y Neuadd Farmor yn Nheml Heddwch Caerdydd yn dod yn noddfa o gerddoriaeth, sain a myfyrdod yn ystod Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2026.

Bydd y cyfansoddwr, cerddor ac artist sain o Gymru, Richard James, gynt o Gorky’s Zygotic Mynci, yn cyflwyno perfformiad byw a gosodiad sain newydd dan ei ffugenw cerddorol, Evolution Of Beauty.

Gan gyfuno synthesisyddion analog, recordiadau maes, geiriau llafar, elfennau acwstig ac electronig, bydd y perfformiadau yn archwilio harmoni, amherseinedd a chyseiniant naturiol y Neuadd Farmor trwy ddolennu, effeithiau sain ac elfennau byrfyfyr.

Bydd recordiadau a wnaed gyda’r cerddorion Jan Hendrickse, Angharad Van Rijswijk, Rhodri Davies a Gareth Bonello yn ystod perfformiadau byrfyfyr y tu mewn i Ogof Wogan yn 2025 yn cael eu hailbwrpasu ar gyfer y gosodiad a’u cyfuno ag elfennau byw ac elfennau sydd wedi’u cyfansoddi’n rhannol ymlaen llaw i greu perfformiadau sy’n esblygu’n raddol dros saith awr.

Bydd y perfformiadau am ddim yn rhedeg rhwng 1pm ac 8pm ar 5, 6 ac 8 Hydref a gall cynulleidfaoedd fynd a dod ar unrhyw adeg.

Mae Evolution of Beauty yn rhan o raglen ddinas gyfan o berfformiadau, sgyrsiau, arddangosfeydd a digwyddiadau arbennig sy’n cael eu cynnal yn ystod Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2026, sy’n cael ei chynnal rhwng 2 a 17 Hydref ac sydd hefyd yn cynnwys Gŵyl Sŵn, Llais a Gwobr Gerddoriaeth Gymreig.

Meddai Richard James: “Mae gan y Neuadd Farmor y cyseiniant naturiol anhygoel hwn a hanes sy’n rhoi ystyr i’r gofod ymhell y tu hwnt i’w bensaernïaeth. Y nod yw archwilio beth sy’n digwydd pan fyddwn ni’n caniatáu i berfformiad byw, sain wedi’i recordio a chymeriad yr adeilad ryngweithio dros gyfnod estynedig.

“Fy ngobaith yw y bydd yn creu gofod ysgafn i fyfyrio ac yn rhoi cyfle i gamu i ffwrdd o sŵn y byd y tu allan.”

Dywedodd Ruth Cayford, Curadur Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd: “Mae Evolution of Beauty yn dwyn ynghyd gerddoriaeth, pensaernïaeth, hanes ac arbrofi, gan annog cynulleidfaoedd i brofi’r adeilad pwysig hwn mewn ffordd hollol wahanol.

“Gall pobl aros am ychydig funudau neu am sawl awr, gwrando’n astud, symud o gwmpas y gofod neu eistedd a darllen – eu dewis nhw ydy hi’n llwyr. Mae’n addo bod yn rhan anarferol, groesawgar a hygyrch o raglen ehangach Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd y gall y ddinas gyfan, hyd yn oed y rhai nad ydynt fel arfer yn mynd i gig, ei mwynhau.”