YN CYHOEDDI’R AIL DON O ARTISTIATID SŴN 2026
Y PRIF ŴYL I DDARGANFOD CERDDORIAETH NEWYDD YNG NGHYMRU
YN CYHOEDDI’R AIL DON O ARTISTIATID SŴN 2026
15 – 17 HYDREF
ARTISTIAID O GYMRU WEDI’U CYHOEDDI HEDDIW:
- DEWIN
- FFENEST
- NEVE CARIAD
- TESNI
- PYPI SLYSH
YN YMUNO Â CERYS HAFANA, IFAN, CASI, PYS MELYN, WRKHOUSE, ASIDHARA, TOKOMOLOLO, CHWAER FAWR, SHINOBII + MWY
TOCYNNAU UNDYDD AR GAEL NAWR, CYNHADLEDD SŴN WEDI’I GYHOEDDI + CEISIADAU GWIRFODDOLI AR AGOR
YN FALCH O FOD YN RHAN O ŴYL DINAS GERDD CAERDYDD
TOCYNNAU SŴN 2026
https://swnfest.seetickets.com/
“Charming, a little slept on and flecked with magic.” – The Guardian
“Diverse and full of surprises.” – NME
“The locals are fiercely proud of Sŵn; of its community spirit, of the wonderfully characterful venues, and of its fearless programming. As the threat to grassroots live music persists, its importance grows; it is becoming less a music festival, and more a roar of defiance.” – DIY
“Sŵn Festival is setting the benchmark for festival line-ups and really hammers in a ‘no more excuses’ approach when it comes to diversity on line-ups… A perfectly run event, glued together by beautiful, kind and community-driven people.” – Clash
Heddiw, mae Sŵn yn cyhoeddi’r ail don o artistiaid fydd yn perfformio ar draws y brifddinas rhwng dydd Iau 15fed Hydref a dydd Sadwrn 17eg Hydref 2026 fel rhan o 19eg rhifyn yr ŵyl. Unwaith eto eleni, mae’r ŵyl aml-leoliad yn bartner balch i Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd (2il – 17eg Hydref), sydd hefyd yn cyflwyno Gŵyl Llais a’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig fel rhan o’u rhaglen bythefnos o hyd.
Wedi’i sefydlu gan Huw Stephens yn 2007, a’i arwain gan dîm Clwb Ifor Bach ers 2018, mae rhaglen Sŵn eleni yn tynnu ynghyd artistiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan gyflwyno rai o’r enwau newydd mwyaf cyffrous o Gymru a thu hwnt. Yn aros yn driw at weledigaeth Sŵn o feithrin talent leol a darganfod cynulleidfa i amrediad eang o artistiaid, mae’r ŵyl tridiau o hyd yn gyfle gwych i ddod o hyd i’ch hoff artist newydd.
Yn ymuno â Cerys Hafana, Ifan, Casi, Pys Melyn, WRKHOUSE, Tokomololo a SHINOBii, ymhlith eraill, mae llond lle o artistiaid Cymreig newydd wedi’u hychwanegu i’r rhaglen heddiw gan gynnwys yr aml-offerynnwyr hudolus o Fryniau Preseli, Dewin; y cyfansoddwr ifanc sy’n creu melodïau melysgar agosatoch, Tesni; a hefyd y band seicedelig, Ffenest, wedi i’w halbwm cyntaf ‘Emynau Anghyflawn’ gyrraedd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Cymraeg 2026.
Gyda ffocws penodol ar amlygu talent newydd, bydd Sŵn hefyd yn croesawu enwau newydd i’r ŵyl am y tro cyntaf eleni gan gynnwys y cerddor gwerin Americana fu’n chwarae yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd fis Awst, Neve Cariad. Yn ogystal, bydd ffefrynnau cylchoedd cudd Caerdydd, Pypi Slysh, yn dod â’u naws niwlog llac i glustiau newydd y brifddinas fis Hydref.
Bydd hefyd y gynhadledd Sŵn Connect yn cael ei chynnal ar ddydd Gwener 16eg Hydref yn Cornerstone, Caerdydd – cadwch lygad allan am y siaradwyr fydd yn cael eu cyhoeddi’n fuan, lle gellir disgwyl cymysgedd o leisiau profiadol o’r diwydiant a safbwyntiau ffres gan rai sy’n prysur wneud eu marc.
Bydd yr ŵyl unwaith eto yn cael ei gynnal mewn aml-leoliad ar draws Caerdydd, gan berchnogi Stryd Womanby a thu hwnt gydag amserlen lawn o gerddoriaeth newydd a chyffrous. Ymhlith y lleoliadau sy’n o raglen Sŵn eleni mae
Tramshed, Clwb Ifor Bach, Eglwys St John, Jacobs Basement, Fuel, Canopi, Tiny Rebel, Little O’Neill’s a Porter’s.
Meddai Adam Williams, rheolwr cerddoriaeth byw Sŵn: “Rydym yn gyffrous iawn yn datgelu’r ail don o artistiaid ar gyfer gŵyl Sŵn 2026! Eleni, mae’r ŵyl yn dychwelyd gyda thri diwrnod llawn o gerddoriaeth newydd mewn 9 o leoliadau gwahanol ar draws Caerdydd – gyda dros 150 o artistiaid yn perfformio ar draws 10 llwyfan anhygoel. Mae rhywbeth at ddant pawb, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at eich croesawu chi i Gaerdydd ym mis Hydref.”
Mae tocynnau ar gyfer Sŵn ar werth i’r nawr, gyda chynlluniau talu ar gael a thocynnau undydd hefyd. Am ragor o wybodaeth:
https://swnfest.seetickets.com
Cofrestrwch â’r rhestr bostio i dderbyn y cyhoeddiadau newydd.