Cyhoeddi Gŵyl Gwlad y Gân gyntaf gydag Andrea Bocelli
Dydd Llun, 10 Awst 2026
Gŵyl Gwlad y Gân yn cyhoeddi
Prif Gyngerdd Unigol Gyntaf Andrea Bocelli yng Nghymru
Mae gŵyl fawreddog newydd sy’n dathlu treftadaeth gerddorol gyfoethog Cymru, yn cyhoeddi eu prif ddigwyddiad cyntaf heddiw, wrth gadarnhau perfformiad Andrea Bocelli yng Nghymru, pan fydd y tenor byd-enwog yn ymddangos yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn 8 Mai 2027.
Stadiwm Principality – Sadwrn 8 Mai 2027
Bydd Tocynnau ar werth am 10:00 ddydd Gwener 14 Awst yma
Bydd y digwyddiad arbennig hwn yn rhan allweddol o arlwy gŵyl gyntaf Gwlad y Gân fydd yn dathlu traddodiad cerddorol Cymru.
Ddiwrnod wedi i Andrea Bocelli berfformio yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 8 Mai, bydd pobl o weddill y Deyrnas Unedig ac o bedwar ban byd yn dod at ei gilydd ar gyfer dychweliad Côr y Byd sef ‘Côr World Choir’, ddydd Sul 9 Mai 2027. Dyma fydd un o’r digwyddiadau corawl mwyaf erioed.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn gyntaf yng Nghaerdydd ym 1992 gan yr un sefydliad aeth ymlaen i sefydlu Young Voices. Y diwrnod hwnnw daeth llu o gorau ynghyd ar Barc yr Arfau gan osod seiliau cadarn i enw da’r sefydliad fel un o drefnwyr digwyddiadau cerddorol torfol mwyaf y byd.
Bydd yr ŵyl yn digwydd bob yn ail flwyddyn o hyn ymlaen gan ddod â rhai o artistiaid, corau a chynulleidfaoedd gorau’r byd o Gymru a thu hwnt at ei gilydd er mwyn dathlu traddodiad cerddorol, cymunedol a chorawl Cymru.
Wrth lansio’r ŵyl, daeth y cadarnhad y bydd Andrea Bocelli yn perfformio yn ninas gerddorol Caerdydd – prifddinas ‘Gwlad y Gân’ – mewn cyngerdd seddi’n unig – yn Stadiwm Principality.
Yn cadw cwmni iddo ar y noson fydd Cerddorfa Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru a chôr cyfun syfrdanol ar gyfer noson fydd yn tynnu dŵr i’r dannedd. Y cyngerdd hwn fydd y digwyddiad operatig mwyaf erioed i’w gynnal yng Nghymru a bydd yn ddathliad bythgofiadwy o gerddoriaeth.
Bydd Andrea Bocelli’n canu nifer o ganeuon o’i albwm eiconig Romanza, 30 mlynedd ers iddo gael ei ryddhau yn gyntaf a gan y bydd y to yn Stadiwm Principality wedi ei gau, bydd y sain a’r awyrgylch ar y noson yn arbennig.
Bydd yr wŷl yn parhau ddydd Sul 9 Mai pan fydd dros 20,000 o gantorion yn dod at ei gilydd ar gyfer ‘Côr World Choir’ – un o’r digwyddiadau corawl mwyaf erioed yng Nghymru. Bydd y ddau achlysur yma dros gyfnod o ddau ddiwrnod yn sefydlu Gŵyl Gwlad y Gân fel un o ddathliadau cerddorol mwyaf y byd, ac mae mwy o gyhoeddiadau ar y gorwel.
Dywedodd y maestro ei hun, Andrea Bocelli:
“Trwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi cael y fraint o berfformio mewn nifer o leoliadau rhyfeddol ym mhob cwr o’r byd. Rwy’n hynod gyffrous fy mod yn mynd i berfformio yn fy mhrif gyngerdd unigol gyntaf yng Nghymru gan fod gan y wlad draddodiad cerddorol a chorawl arbennig. Oherwydd hynny mae cael y cyfle i ganu yn ninas Caerdydd yn deimlad arbennig ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at noson fythgofiadwy.”
Mae Andrea Bocelli yn un o’r artistiaid clasurol mwyaf llwyddiannus erioed. Mae wedi gwerthu bron i 90 miliwn o recordiau dros y blynyddoedd ac mae ei ganeuon wedi eu ffrydio dros 25 biliwn o weithiau ers iddo ddod i’r amlwg yn gyntaf pan enillodd yng Ngŵyl Gerdd Sanremo ym 1994. Mae bellach yn enwog am ei ddehongliadau o weithiau operatig mawr o dan arweiniad arweinwyr chwedlonol fel Lorin Maazel, Seiji Ozawa a Zubin Mehta. Mae wedi derbyn chwe enwebiad Grammy a chwe enwebiad Grammy Lladin, ac mae ganddo seren ei hun yn Hollywood. Mae Bocelli wedi perfformio i bedwar Arlywydd yr Unol Daleithiau, pedwar Pab, y Teulu Brenhinol, ac mewn prif ddigwyddiadau chwaraeon hefyd, gan gynnwys y Gemau Olympaidd a Chwpan Pêl-droed y Byd.
Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:
“Mae gan Gymru draddodiad cerddorol hanesyddol a chyfoethog ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r ŵyl newydd hon i Gaerdydd, fydd yn rhan o ddyfodol cerddorol amrywiol a chyffrous y ddinas.
“Mae’r cyfle i glywed a phrofi llais swynol Andrea Bocelli, ac yna’r diwrnod wedyn groesawu un o’r dathliadau mwyaf o gyd-ganu erioed yng Nghymru, yn sicrhau lansiad arbennig i Ŵyl Gwlad y Gân, fydd yn cael ei chynnal bob dwy flynedd wedi hynny. Mae hwn yn mynd i fod yn ddathliad mawr o gerddoriaeth yng Nghymru ac mae’r digwyddiad yn argoeli i fod yn un gwirioneddol gofiadwy.”
Dywedodd Ben Lewis, Prif Weithredwr Young Voices:
“Mae Gŵyl Gwlad y Gân wedi bod ar y gweill ers 35 mlynedd, ac yn naturiol felly, rwy’n falch iawn o ddychwelyd i Gymru, lle dechreuodd y cyfan.
“Mae ein sefydliad wedi bod yn cynnal rhai o’r digwyddiadau corawl mwyaf ledled y byd ers blynyddoedd lawer bellach, ond does dim byd yn cymharu â dychwelyd adref. Pa le gwell i ddod at ein gilydd na Stadiwm Principality sydd wrth galon cenedl sy’n enwog am ei thraddodiad canu eithriadol.
“Mae Gŵyl Gwlad y Gân am ddathlu pob agwedd o’r traddodiad hwnnw. Ddydd Sadwrn, mae’n anrhydedd gennym groesawu Andrea Bocelli ar gyfer ei gyngerdd unigol gyntaf erioed yng Nghymru. Mae’n artist o’r radd flaenaf yn fyd-eang wrth gwrs ac mae ei ddenu atom yn cadarnhau uchelgais yr ŵyl newydd hon. Yna, ddydd Sul, bydd yr ŵyl yn parhau gyda dychweliad ‘Côr World Choir’, pan fydd miloedd o gantorion yn dod ynghyd i ddathlu cymuned, diwylliant a’r pleser o ganu hefyd!
“Bydd y ddau ddigwyddiad yma’n lansio’r ŵyl ac rydym yn credu y bydd hi’n mynd o nerth i nerth gan ddod yn un o ddathliadau canu mawr y byd.”
Achubwch ar y cyfle i glywed un o leisiau mwyaf hyfryd y byd yn fyw yng Nghymru!
Bydd Tocynnau ar werth am 10:00 ddydd Gwener 14 Awst yma
Am fwy o wybodaeth am Wlad y Gân cliciwch yma
Mae gwybodaeth am ‘Côr World Choir’ a’r gallu i gofrestru corau ar gael yma: landofsongfestival.com