Ceisiadau’n agor ar gyfer cronfa i leoliadau cerddoriaeth llawr gwlad sy'n "help enfawr"

Mae cronfa sydd eisoes wedi darparu mwy na £250,000 o gymorth i leoliadau cerddoriaeth llawr gwlad yng Nghaerdydd wedi agor ar gyfer rownd arall o geisiadau.

Yn rhan o strategaeth Dinas Gerdd Cyngor Caerdydd, mae’r Gronfa Lleoliadau Llawr Gwlad yn cynnig cymorth i leoliadau presennol i’w gwneud yn fwy cynaliadwy yn ariannol neu’n amgylcheddol.

Mae 20 lleoliad eisoes wedi elwa o’r gronfa gan gynnwys Clwb Ifor Bach, Porters, Canolfan Gelfyddydau Chapter, Paradise Garden, Acapela, Tiny Rebel a The Canopi i wneud gwelliannau a phrynu offer newydd hanfodol.

Dywedodd Rob Toogood o Fuel Rock Club ar Stryd Womanby fod y Gronfa Lleoliadau yn “help enfawr”, gan esbonio bod “rownd ddiwethaf y Gronfa Lleoliadau wedi ein galluogi i uwchraddio ein goleuadau llwyfan yn llwyr i lefel fwy proffesiynol ac ynni-effeithlon hefyd. Mae wedi ein galluogi i roi profiad llawer gwell i’r artistiaid sy’n chwarae yn Fuel.

“Ochr yn ochr â’r goleuadau, roedden ni hefyd yn gallu uwchraddio ein desg sain i fodel llawer mwy addas at y diben. Mae hyn hefyd yn golygu bod 90% o leoliadau llawr gwlad Caerdydd bellach yn gweithredu’r un ddesg gymysgu, gan wneud pethau’n llawer haws i’r gymuned o dechnegwyr sain.” 

Rob Toogood o Fuel Rock Club, un o’r lleoliadau i elwa o Gronfa Lleoliadau Llawr Gwlad Cyngor Caerdydd. Llun: Fuel Rock Club

Yn y cyfamser, ar Stryd Tudor, mae un o leoliadau mwyaf newydd Caerdydd, The Canopi, hefyd yn teimlo budd cyllid Dinas Gerdd Caerdydd.

Dywedodd Julia Harris, sy’n rhedeg y lleoliad llwyddiannus; “Mae cymorth gan Gyngor Caerdydd drwy Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd wedi bod yn allweddol yn nhwf The Canopi fel lleoliad cerddoriaeth llawr gwlad. Ynghyd â buddsoddiad y Gronfa Lleoliadau Llawr Gwlad yn ein desg gymysgu ddigidol newydd, mae wedi gwella ansawdd ein rhaglen fyw yn sylweddol, gan ein galluogi i groesawu artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol sydd ar daith wrth ddarparu profiad proffesiynol i berfformwyr a chynulleidfaoedd.”

“Mae’r cyllid hefyd wedi rhoi’r hyder a’r gallu i ni dreialu syniadau newydd, arbrofi gyda’n rhaglenni, a chymryd risgiau creadigol a fyddai fel arall wedi bod y tu hwnt i’n hadnoddau. Mae hyn wedi ein galluogi i brofi fformatau digwyddiadau newydd, hyrwyddo artistiaid sy’n dod i’r amlwg, ac ymateb i ddiddordebau ein cymuned leol.

“Mae hefyd wedi creu mwy o gyfleoedd i gyflogi peirianwyr sain llawrydd a staff i’r lleoliad, wrth gefnogi datblygiad sgiliau ar gyfer y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol digwyddiadau byw. Ar y cyfan, mae wedi cryfhau rôl The Canopi fel lleoliad cynhwysol ac arloesol sy’n cyfrannu at sin gerddoriaeth lwyddiannus Caerdydd.”

Julia Harris a Sarah Valentin o The Canopi, y tu allan i’r lleoliad ar Stryd Tudor. Llun: The Canopi

Mae’r Gronfa Lleoliadau Llawr Gwlad, sydd bellach yn dechrau ar ei thrydedd flwyddyn, yn rhan o waith parhaus ‘Dinas Gerdd Caerdydd’ y Cyngor i gefnogi, diogelu a datblygu sector cerddoriaeth y ddinas.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth, y Cynghorydd Jennifer Burke: “Mae lleoliadau llawr gwlad yn hanfodol i sin gerddoriaeth Caerdydd – hebddyn nhw, does dim sin. Ond maen nhw’n wynebu’r un heriau sylweddol sy’n wynebu lleoliadau annibynnol ledled y wlad, a dyna pam mae ein Cronfa Lleoliadau Llawr Gwlad yn canolbwyntio ar gefnogi gwelliannau a all wella eu cynaliadwyedd hirdymor.

“Byddwn ni’n parhau i chwilio am ffyrdd o gefnogi lleoliadau llawr gwlad y ddinas – boed hynny drwy fentrau proffil uchel fel Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd neu y tu ôl i’r llenni, ond y ffordd orau y gall unrhyw un ohonon ni eu diogelu yw eu defnyddio. Mae cymaint o gerddoriaeth wych ar gael yng Nghaerdydd, mae’n werth ei archwilio ac efallai y byddwch chi hyd yn oed yn dod o hyd i’ch hoff fand nesaf.”

Bydd ceisiadau sy’n creu neu’n diogelu swyddi, cynyddu hygyrchedd lleoliadau, lleihau’r defnydd o ynni a chyfrannu at les economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Caerdydd hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid.

Mae rhagor o wybodaeth am y Gronfa Lleoliadau gan gynnwys meini prawf ariannu a sut i wneud cais ar gael yma: https://www.caerdydd.gov.uk/cronfalleoliadaullawrgwlad