Attitude is Everything yn lansio Arolwg Cyflwr Mynediad
Mae Attitude is Everything wedi lansio prosiect cenedlaethol sydd â’r nod o wella dealltwriaeth o brofiadau cynulleidfaoedd, artistiaid a gweithwyr proffesiynol byddar, anabl a niwrowahanol yn sector cerddoriaeth fyw’r DU.
Mae’r arolwg yn archwilio ystod o bynciau, gan gynnwys:
- – Y mathau o ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw y mae pobl anabl yn ymgysylltu â nhw.
- – Profiadau pobl anabl o hygyrchedd mewn lleoliadau a gwyliau cerddoriaeth.
- – Ystyriaethau ariannol ychwanegol sy’n gysylltiedig ag anabledd ac anghenion mynediad.
- – Effeithiau iechyd sy’n ymwneud â mynychu neu berfformio/gweithio mewn digwyddiadau byw.
- – Profiadau o ganslo, cynllunio a chyfathrebu.
- – Sut mae pobl anabl yn paratoi ar gyfer, yn rheoli ac yn ymateb i heriau a risgiau sy’n gysylltiedig â mynediad.
—
Llenwch yr arolwg YMA
(Attitude is Everything)