'Codi Llais' yn codi’r to – prosiect canu nodedig ar draws y ddinas gyfan i bobl ifanc

Ym mis Chwefror eleni, lansiodd Cyngor Caerdydd Codi Llais, menter canu a chyfansoddi uchelgeisiol newydd ar draws y ddinas, sydd wedi dod â miloedd o bobl ifanc at ei gilydd ar gyfer un o’r digwyddiadau côr torfol mwyaf a gynhaliwyd erioed yn y brifddinas.

Mae’r prosiect gwerth £60,000, dan arweiniad Addysg Gerdd CF gyda chymorth Cyngor Caerdydd a Chynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth Llywodraeth Cymru, wedi uno plant Blynyddoedd 5–7 ledled Caerdydd, gan arwain at berfformiad mawr yn Arena Utilita Caerdydd yr wythnos hon.

Rhoddodd Bronwen Lewis, cantores, cyfansoddwraig a chyflwynydd sioe foreol BBC Radio Wales berfformiad annisgwyl pan ymunodd â’r côr a’r perfformwyr i berfformio dwy o’i chaneuon ei hun a’r gân a ysgrifennwyd ganddi hi a’i disgyblion yn arbennig ar gyfer y prosiect – ‘Codi Llais’.

Camodd tua 1,600 o ddisgyblion ar y llwyfan yn y cyngerdd terfynol, mewn perfformiad roc a phop oedd yn arddangos talent ifanc Caerdydd ar blatfform proffil uchel. Yn ymuno â nhw oedd cerddorion proffesiynol gan gynnwys y gantores-gyfansoddwraig o Gymru, Shellyann, sy’n enwog am ennill All Together Now ac am ei hymddangosiad rhagorol ar The Voice, y comedïwr, y canwr a’r actor Mike Doyle a band roc proffesiynol.

Cyflwynwyd y sioe gan Elin Llwyd, actor, cantores ac animeiddiwr lleisiol Cymreig a chyfarwyddwr ABC (Academi Berfformio Caerdydd), sy’n angerddol am ehangu mynediad at ganu a’r celfyddydau i blant a phobl ifanc ledled Cymru.

Wedi’i gynllunio i ysbrydoli pobl ifanc, cryfhau’r ddarpariaeth gerddoriaeth mewn ysgolion a dathlu bywiogrwydd diwylliannol Caerdydd, roedd Codi Llais yn canolbwyntio ar themâu dod o hyd i’ch llais, hunan-gred, bod yn ddewr, bod yn ifanc a chael hwyl.

Gan gyrraedd hyd at 10,000 o blant drwy ymweliadau ag ysgolion, gweithiodd ymarferwyr lleisiol proffesiynol yn uniongyrchol gyda’r disgyblion i’w cefnogi i ddatblygu llythrennedd a llafaredd ochr yn ochr â thechneg leisiol, hyder a dawn gerddorol.

Mae’r prosiect yn cefnogi fframwaith celfyddydau mynegiannol y Cwricwlwm i Gymru a’i nod yw gadael gwaddol hirdymor drwy gryfhau canu ysgol gyfan a gosod sylfeini ar gyfer digwyddiadau blynyddol yn y dyfodol. Mae’r manteision eraill yn cynnwys:

  • Gwell sgiliau a hyder cerddorol
  • Gwell lles ac ymdeimlad o berthyn
  • Cryfhau cydweithio ar draws sector diwylliannol Caerdydd
  • Hyder cynyddol a datblygiad proffesiynol ymhlith athrawon

Mae athrawon wedi elwa hefyd ar sesiynau Dysgu Proffesiynol am ddim, a gyflwynwyd ar-lein ac wyneb yn wyneb, gyda’r nod o fagu hyder a datblygu diwylliant canu hirdymor mewn ysgolion. Mae pecyn adnoddau digidol cynhwysfawr yn cynnwys traciau ymarfer, sgorau a chanllawiau addysgu, wedi cael eu darparu heb unrhyw gost i’r ysgolion wnaeth gymryd rhan.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: “Mae Codi Llais yn ddathliad gwych o greadigrwydd ac egni pobl ifanc Caerdydd. Trwy ddod â miloedd o ddisgyblion ynghyd o bob cwr o’r ddinas, rydyn ni wedi creu profiad cerddorol bythgofiadwy ac wedi cryfhau hyder, lles ac ymdeimlad o berthyn drwy bŵer canu. Mae’r prosiect hwn yn dangos beth sy’n bosibl pan fydd ein hysgolion, ymarferwyr a chymunedau yn dod at ei gilydd gydag uchelgais a dychymyg – gan roi cyfle i bob plentyn godi ei lais a bod yn rhan o rywbeth gwirioneddol ddinas gyfan.”

Yn dilyn gweithdy gyda dros 70 o ddisgyblion o ysgolion ledled Caerdydd, dywedodd Bronwen: “Pa mor cŵl yw hi bod y plant hyn yn cael cyfle i ganu mewn arena. Mae hynny’n rhywbeth dyw’r rhan fwyaf o enwogion, y rhan fwyaf o artistiaid ddim yn cael cyfle i’w wneud. Ddim yn ffôl am gig cyntaf i’r rhan fwyaf ohonynt.

“Mae’n wych! Doedd dim byd fel hyn pan oeddwn i’n tyfu i fyny. Maen nhw i gyd mor lwcus i gael cyfle i gael gwersi cerddoriaeth ac i ysgrifennu eu caneuon a mynegi eu hunain, mae’n anhygoel… Mae hwn yn beth mawr i mi, uchafbwynt go iawn yn fy ngyrfa, a bydd yn sicr yn uchafbwynt enfawr yn eich bywydau chi hefyd.

“Mae Codi Llais yn wych… Roeddwn ni wastad yn teimlo fel plentyn bod rhaid i mi naill ai fynd i’r byd clasurol, bod mewn cerddorfa neu ganu mewn tafarndai a chlybiau a chanu karaoke. Beth sy’n anhygoel yw bod y plant yn gallu bod yn unrhyw beth yma, yn llythrennol. Mae’n hyfryd. Rwy’n ddiolchgar iawn i fod yma.”

Ymddangosodd Bronwen ar raglen ganu ITV The Voice yn 2013, a chwblhaodd y cylch pan gafodd ei gwahodd i ymuno â phanel beirniaid Y Llais. Mae hi hefyd wedi serennu yn y ffilm sydd wedi ennill Bafta, Pride, wedi rhyddhau albwm unigol, a theithio gyda’r eicon Cymreig Max Boyce am dair blynedd, yn ogystal ag ennill cefnogwyr ar-lein drwy gyngherddau rhithwir yn ystod pandemig Covid a fersiynau Cymraeg o ganeuon pop ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Mae Codi Llais yn cefnogi gwaith strategaeth gerddoriaeth Cyngor Caerdydd i adeiladu ecosystem gerddoriaeth gynaliadwy a gwydn.

 

#DinasGerddCaerdydd