Cynllun ariannu i annog mwy o gigs llawr gwlad yng Nghaerdydd yn dychwelyd ar ôl peilot llwyddiannus

Cynllun ariannu i annog mwy o gigs llawr gwlad yng Nghaerdydd yn dychwelyd ar ôl peilot llwyddiannus

Mae sîn gerddoriaeth Caerdydd i gael hwb arall yn 2026 wrth i gynllun cyllido ALLBWN / OUTPUT Cyngor Caerdydd ddychwelyd, yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn gynharach eleni, gyda chylch gwaith estynedig i gefnogi artistiaid electronig a DJs newydd ac sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal â gigs.

Gyda’r nod o annog hyrwyddwyr i gymryd mwy o risgiau a chynyddu’r cyflenwad o artistiaid newydd addawol sy’n chwarae yn lleoliadau annibynnol y ddinas yn ystod misoedd cynnar tawel y flwyddyn, mae ALLBWN / OUTPUT yn gwarantu hyrwyddwyr sy’n ennill cymorth drwy’r cynllun rhag colledion ariannol o hyd at £1,000 ar ddigwyddiadau.

Mae’r gwarant yn golygu os na fydd gwerthiant tocynnau ar gyfer gig yn cyrraedd y lefel sy’n ofynnol i dalu costau fel llogi lleoliad, PA a ffioedd bandiau, bydd y costau hyn yn cael eu talu. Pan fydd digwyddiadau’n llwyddiannus, bydd unrhyw arian o’r cynllun sydd heb ei wario yn cael ei ddefnyddio i gefnogi mwy o gigs.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:

“Dangosodd y peilot y gallwn roi hyder i hyrwyddwyr fachu ar gyfleoedd, cynnal digwyddiadau ar adeg o’r flwyddyn pan na fyddent fel arfer yn hyderus i wneud hynny, a hyrwyddo artistiaid ar gamau cynnar iawn eu gyrfa pan nad oes gwarant o gynulleidfaoedd mawr.”

“Rydym yn benderfynol o gefnogi sîn gerddoriaeth Caerdydd ac un o’r materion y mae’r sector wedi’u codi gyda ni, drwy Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, yw’r gostyngiad sylweddol yn nifer yr hyrwyddwyr sy’n gweithio yma yn ystod y blynyddoedd diwethaf a’r effaith y mae hynny’n ei chael ar ecosystem gerddoriaeth y ddinas.  Mae’n duedd sy’n gyffredin ledled y DU, ac un sydd, trwy’r cynllun hwn a’n gwaith parhaus ym maes Caerdydd fel dinas gerddoriaeth, yn gobeithio ei newid.”

 

Gwnaeth 17 o hyrwyddwyr gais am gyllid yn ystod y cynllun peilot deufis cychwynnol. Roedd ceisiadau am 13 gig yn llwyddiannus ac fe gawson nhw warant rhag gwneud colledion.

Mae’r cynllun ALLBWN / OUTPUT ar gael i hyrwyddwyr newydd a hyrwyddwyr sydd â hanes amlwg, yn ogystal â bandiau, artistiaid a DJs lleol sydd am gynnal gigs hunan-hyrwyddo.

I fod yn gymwys i wneud cais am gyllid, bydd angen i’r digwyddiad gael ei gynnal mewn lleoliad cerddoriaeth llawr gwlad yng Nghaerdydd, rhaid talu’r holl gerddorion a DJs, a rhaid i fwyafrif y deunydd a gaiff ei berfformio fod yn wreiddiol.  Rhaid i’r cyfanswm risg warantedig fod yn llai na £1000 o bunnoedd a rhaid i’r pwynt peidio â gwneud colled ar gyfer y digwyddiad fod yn is na 80% o ran gwerthiant tocynnau.

Mae ceisiadau am gymorth drwy gynllun ALLBWN / OUTPUT ar agor tan 6 Chwefror 2026.  Rhaid i’r gigs gael eu cynnal cyn 15 Mawrth 2026.

Mae’r cynllun yn cael ei ariannu drwy grant Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

 

 

Bydd manylion llawn ar sut i wneud cais i’r cynllun ALLBWN / OUTPUT ar gael ar wefan Dinas Gerdd Caerdydd.

 

Mae lansio cynllun ALLBWN / OUTPUT yn dilyn agoriad diweddar ail rownd o geisiadau ar gyfer Cronfa Lleoliadau Llawr Gwlad Cyngor Caerdydd wedi’i gefnogi gan incwm wedi’i a gynhyrchu drwy gyfres o gyngherddau awyr agored yr haf diwethaf yng Nghaeau’r Gored Ddu, a chyllid gan Lywodraeth y DU. Dyfarnwyd bron i £200,000 o gyllid cyfalaf i leoliadau annibynnol yn y ddinas yn ystod rownd gyntaf cyllido Lleoliadau Llawr Gwlad Caerdydd.