Mae IN TUNE yn gyfres o sesiynau rhwydweithio rhithiol AM DDIM i weithwyr Anabl, Niwro-Awrywiol a Byddar yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

DYDDIADAU

  • Sesiwn 1 – Saesneg a BSL – (6pm to 8pm) 4ydd Rhagfyr 2025
  • Sesiwn 2 – Cymraeg a BSL – (6pm to 8pm) 18fed Rhagfyr 2025
  • Sesiwn 3 – Saesneg a BSL – (6pm to 8pm) 8fed Ionawr 2026
  • Sesiwn 4 – Cymraeg a BSL – (6pm to 8pm) 15fed Ionawr 2026

SIARADWYR GWADD ARBENNIG A PHITSIO’N GYFLYM

Mi fydd pob sesiwn rhwydweithio yng nghynnwys areithiau gan westai cerddoriaeth arbennig, a fydd yn rhannu eu profiad o weithio yn y sector cerddoriaeth fel rhywun anabl. Mae hyn yn cynnwys May Swoon, Mali Haf a Jonny Cotsen.

Ydych chi’n chwilio am gydweithwyr am brosiect cyffrous newydd? Cofrestrwch am un o ein slotiau Pitsio’n Gyflym, lle fydd gennych chi 5 munud i siarad am eich gwaith yn y sesiwn.

MEINI PRAWF MYNYCHWYR

Mae’r digwyddiad hwn i bobl sydd yn uniaethu fel rhywun Anabl, â Salwch Cronig, Niwro-Amrywiol, Byddar, neu gydag unrhyw fath o gyflwr Iechyd neu anhwylder arall.

Does ‘na ddim angen diagnosis gennych chi i fynychu.

Mae rhaid byw neu weithio yng Nghymru.

Os ydych chi’n dod a gofalwr, does ‘na ddim rhaid iddyn nhw brynu ticed.

 

Manylion YMA
(Cyngor Celfyddydau Cymru)