Neidio i'r prif gynnwys

Llais: Poesis

Dyddiad(au)

11 Hyd 2025

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru Bute Place Caerdydd CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Yn dod â phedwar artist sy’n gwthio ffiniau ynghyd – un o Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban – comisiwn newydd yw Poesis a gafodd ei greu o’r rhaglen datblygu doniau lwyddiannus Take Five dan arweiniad Serious. 

Yn y cydweithrediad unigryw yma, mae’r artistiaid yn gwau themâu cydgysylltiad, ffiniau ac iaith fel trothwyon. Gyda seinweddau byw, fersiynau newydd o ganeuon gwerin traddodiadol, alawon byrfyfyr a lleisiau wedi’u trin, mae’r perfformiad yn pylu’r llinellau rhwng y gorffennol a’r presennol, lle a chanfyddiadau.