Llais: Sesiwn Dydd Sadwrn: Ibibio Sound Machine, Vieux Farka Touré, Trio Da Kali
Dyddiad(au)
11 Hyd 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Paratowch ar gyfer Sesiwn dydd Sadwrn – lle mae leisiau anhygoel yn uno o dan yr un to. Tri band, un tocyn, un noson fythgofiadwy.
Ibibio Sound Machine
Mae Pull the Rope, y record ddiweddaraf gan Ibibio Sound Machine, yn dangos ochr newydd i’r grŵp a arweinir gan Eno Williams a Max Grunhard. Mae gobaith, llawenydd a rhywioldeb eu cerddoriaeth yn parhau, ond, gan fireinio awch Electricity, eu halbwm clodwiw o 2022, mae’r cysylltiad y maent am ei greu wedi symud lleoliad. O fywiogrwydd a disgleirdeb gŵyl llawn heulwen i glwb dawns chwyslyd gydol nos. Mae’r awyrgylch wedi newid, ond rydych chi’n dal i gael amser rhagorol.
Vieux Farka Touré
Cyfeirir yn aml ato fel “Hendrix y Sahara”, fe anwyd Vieux Farka Touré yn Niafunké, Mali ym 1981. Mae’n fab i’r chwaraewr gitâr adnabyddus o Mali, Ali Farka Touré, a fu farw yn 2006. Fe ryddhaodd ei albwm diweddaraf Les Racines yn 2022, ochr yn ochr â record gydweithredol â Khruangbin, Ali. Mae Ali yn talu teyrnged i waith ei dad gyda dehongliadau newydd o uchafbwyntiau adnabyddus ac ochrau B o’i ôl-gatalog.
Trio Da Kali
Yn disgyn o linell hir o griots nodedig (cerddorion etifeddol arbenigol) yn niwylliant Mandé de Mali, mae’r artistiaid nodedig hyn yn perfformio un o arddulliau mwyaf cynnil ac aruchel Affrica. Daw Trio Da Kali â thro creadigol newydd i synau hynafol, gan gyfuno llais, bas ngoni, a balafon. Mae llawer o’u repertoire wedi mynd yn angof neu wedi’i esgeuluso, ond mae’n cynrychioli diwylliant cerddorol sydd wedi goroesi dros ganrifoedd lawer. Maent wedi teithio a recordio albwm arobryn gyda Kronos Quartet.