Llais: Enji

Dyddiad(au)

10 Hyd 2025

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru Bute Place Caerdydd CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae’r gantores Mongolaidd Enji yn creu cymysgedd unigryw o jazz a gwerin wedi’i gyfuno â thraddodiadau cerddoriaeth Mongolaidd, sydd mil o flynyddoedd oed.

Yn dilyn llwyddiant ei record ddiwethaf ‘Ulaan’, aeth Enji ‘nôl i’r stiwdio ar ddiwedd y llynedd, sef y flwyddyn prysuraf yn ei bywyd cerddorol hyd yma heb os, i brosesu popeth drwy gyfansoddi a recordio cerddoriaeth newydd.

Ar Sonor (a gafodd ei ryddhau ym mis Mai 2025), ei thrydydd albwm ar label Squama, mae’r gantores Mongolaidd yn archwilio cwestiynau am hunaniaeth a pherthyn drwy iaith fetafforig, yn effro a bob amser yn obeithiol. Yn gerddorol, fel ei rhagflaenyddion Ursgal a Ulaan, mae Sonor yn eistedd rhywle rhwng jazz a gwerin, heb gael ei gyfyngu yn glir i genre unigol. Ar y llwyfan, mae Enji yn perfformio ei chaneuon newydd yn y triawd cyfarwydd gyda River Adomeit ar y gitâr fas a’i chyd-gyfansoddwr Paul Brändle ar y gitâr.

Cyflwynir gan Llais mewn cydweithrediad â Serious.

Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 2 oed)

Nodwch fod rhaid i bawb o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu drosodd.