Llais: Mared a Ffrindiau
Dyddiad(au)
10 Hyd 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Mared yn dod ag elfen Gymreig i gyfuno gwerin, indie a phop.
Bydd enillydd Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2021 yn perfformio gyda’i band 7 aelod ‘Mared a Ffrindiau’ yn ogystal â gwesteion arbennig. Gallwch chi ddisgwyl llais esgynnol gyda synau wedi’u dylanwadu gan oes Laurel Canyon.
Yn gynharach eleni gwnaethon nhw ryddhau EP 5 trac gweledol byw, wedi’i ariannu gan Gronfa Launchpad BBC Horizons. Ym mis Medi, mae Mared yn rhyddhau sengl newydd sbon o’i EP sydd ar ddod yn 2026 ac mae’n galw yn Llais fel un o breswylwyr Caerdydd fel rhan o daith fach ledled Cymru a Lloegr i ddathlu!
Ar ôl gwneud ei henw yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg, ar BBC Radio Wales, Radio Cymru a pherfformio mewn gwyliau fel Focus Wales, Tafwyl a Sŵn, eleni mae cerddoriaeth Mared yn mynd â hi i Ganada, y Swistir, Llundain a thu hwnt, ac mae’n llawn cyffro i fod yn ymuno â lein-yp Llais a dod â’i band i chwarae yn agos at adref!
Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 2 oed)
Nodwch fod rhaid i bawb o dan 16 oed gydag oedolyn 18 oed neu drosodd.