Mae Llais y Lle yn ei ôl! - Gwnewch Gais Nawr!
Mae cronfa Cyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi artistiaid i weithio gyda chymunedau er mwyn ddatblygu defnydd a pherchnogaeth o’r Gymraeg – yn agor ei thrydedd rownd.
Nod Llais y Lle yw grymuso unigolion creadigol i gydweithio â chymunedau penodol, gan feithrin defnydd ac ehangu perchnogaeth o’r Gymraeg.
Mae’r gronfa hon yn agored i unigolion neu grwpiau sy’n frwd dros y Gymraeg ac sydd â phrofiad o weithio’n greadigol gyda chymunedau.
Gofynnir i ymgeiswyr gynnig cynllun a fydd yn gosod y Gymraeg wrth galon popeth a wnânt.