The Voyage of Arka Kinari – Ffilm Ddogfen Ymgolli
Dyddiad(au)
17 Hyd 2024
Amseroedd
19:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn cyflwyno
THE VOYAGE OF ARKA KINARI
FFILM DDOGFEN YMGOLLI
Dewch i gychwyn ar brofiad sinematig lle mae celf, cerddoriaeth ac eiriolaeth amgylcheddol yn cydgyfarfod yn hwylus.
Ffilm ddogfen ymgolli am y daith ryfeddol ar fwrdd y llong hwylio 70 tunnell, Arka Kinari, wedi’i thrawsnewid yn ddyfeisgar yn llwyfan diwylliannol i bwysleisio’r alwad frys am weithredu ar yr argyfwng hinsawdd.
Dewch i brofi taith ysbrydoledig Filastine a Nova ar draws cefnforoedd, gan gysylltu glannau pell trwy iaith unol cerddoriaeth a chelf i godi ymwybyddiaeth am wydnwch hinsawdd ar raddfa fyd-eang.
Mae’r ffilm gromen lawn hon gan 4Pi Productions yn cwmpasu’r rhan fwyaf o’r llong ac ehangder y môr wrth daflunio gweledigaeth o ffordd grwydrol o fyw mewn dyfodol tyllog a di-ffin, gan archwilio bywyd ar ôl yr economi garbon, gwydnwch i’r newid yn yr hinsawdd, ac ailgysylltu â’r môr.