Neidio i'r prif gynnwys

Ms. Lauryn Hill & The Fugees

Dyddiad(au)

09 Hyd 2024

Lleoliad

Arena Utilita Caerdydd, Stryd Mary Ann, Caerdydd, CF10 2EQ

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

MAE’R DATHLU’N PARHAU | THE MISEDUCATION ANNIVERSARY TOUR 2024
MS. LAURYN HILL & THE FUGEES
YN PERFFORMIO CERDDORIAETH O THE MISEDUCATION A THE SCORE A MWY!
MERCHER 9 HYDREF | ARENA UTILITA CAERDYDD

Fis diwethaf, cyhoeddodd Ms. Lauryn Hill, sydd wedi ennill Grammy 5 gwaith, ac yn un o eiconau pennaf hip hop, R&B, a ffasiwn / steil, y byddai unwaith eto yn ailymuno â’r Fugees, i arwain estyniad o The Miseducation Anniversary Tour i anrhydeddu ei halbwm nodedig. Oherwydd yr ymateb gwych i’r cefnogwyr, mae Ms Hill a The Fugees yn cyhoeddi eu bod yn ychwanegu dyddiadau Ewropeaidd ychwanegol at y daith – gan gynnwys sioe ddydd Mercher 9 Hydref yn Arena Utilita yng Nghaerdydd fel rhan o Ŵyl Gerdd Dinas newydd Caerdydd.

 

 

 

TELERAU AC AMODAU GWOBR GŴYL DINAS GERDD CAERDYDD (Instagram)
1 x pâr o docynnau mynediad cyffredinol i weld Ms. Lauryn Hill & The Fugees yn Arena Utilita Caerdydd Ddydd Mercher 9 Hydref.
• Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
• Dim ond unwaith y caiff pob cystadleuydd gyflwyno ei enw gan ddilyn yr amodau cystadlu.
• Digwyddiadau yn amodol ar argaeledd. Ni allwch gyfnewid y wobr am arian parod. Nid yw’r wobr hon yn drosglwyddadwy ac ni chynigir dewis arall os bydd unrhyw ran o’r wobr a gynigir yn cael ei gohirio neu ei chanslo.
• Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap ac yn cael gwybod DDYDD MAWRTH 8 HYDREF erbyn hanner dydd.
• Does dim angen prynu unrhyw beth i gystadlu a does dim cost i gystadlu.
• Bydd telerau ac amodau’r wobr hon yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr.
• Mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ganslo neu ddiwygio’r gystadleuaeth a’r telerau hyn os bydd amgylchiadau’n codi y tu hwnt i’w reolaeth.
• Nid yw’r hyrwyddwr yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddifrod, colled, anaf neu siom a ddioddefir gan ymgeiswyr o ganlyniad i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
• Mae ymgeiswyr yn darparu gwybodaeth i’r hyrwyddwr a dim ond i weinyddu’r gystadleuaeth y bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio.
• Ystyrir y bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth wedi derbyn y telerau ac amodau hyn.