Church of Noise yn dod â dathliad wythnos o hyd o gerddoriaeth a diwylliant DIY i Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd

Dydd Llun, 28 Medi 2026


 

Mae dathliad wythnos o hyd o gerddoriaeth a diwylliant DIY, wedi’i ysbrydoli gan breswyliad artist lleol yn un o’r tai pync hynaf sydd wedi goroesi yn yr Unol Daleithiau, yn dod i Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.

Bydd Church of Noise (12 – 16 Hydref) yn dod â cherddorion, beirdd, ffotograffwyr a phrosiectau diwylliannol llawr gwlad ynghyd am bum diwrnod o gerddoriaeth fyw, sgyrsiau a dangosiadau sy’n canolbwyntio ar greadigrwydd ar lawr gwlad a’r cymunedau sy’n tyfu o amgylch sîn gerddoriaeth annibynnol.

Bydd yr uchafbwyntiau yn cynnwys arddangosfa gan y ffotograffydd pync enwog o Efrog Newydd, Julia Gorton, dangosiad rhaglen ddogfen ‘Lo Sound Desert’ Joerg Steineck am y sîn roc desert a gyflwynodd i’r byd fandiau fel Kyuss a Queens of the Stone Age, yn ogystal â digwyddiad ‘mewn sgwrs’ Adeiladu Eich Iwtopia DIY eich Hun, gyda Scott Satterwhite a Valerie George o The 309 Punk Project yn Pensacola, Florida a Mark Wilson o Rockaway Park, prosiect DIY chwyldroadol o gefn gwlad Gwlad yr Haf.

“Pwrpas Church of Noise yw creu gofod lle gall pobl ddod at ei gilydd trwy gerddoriaeth, celf a phrofiadau a rennir,” meddai’r artist lleol S Mark Gubb, a greodd y prosiect. “Daeth y syniad o’r amser a dreuliais yn y 309 Punk Project yn Pensacola, sef un o’r tai pync hynaf sydd wedi goroesi yn America. Roedd y tŷ a’i weithgareddau yn sylfaenol i is-ddiwylliant cyfan y ddinas, ac roedd yr ymdeimlad anhygoel hwn o gymuned yn bodoli yno. Roedd cerddoriaeth yn rhan fawr o hynny, ond roedd hefyd yn ymwneud â rhannu a darganfod syniadau trwy ffilm, ffotograffiaeth a bod yn rhan o gymuned.”

Tyfodd tai pync o’r sîn pync yn y 1970au gan ledaenu ledled yr Unol Daleithiau a thu hwnt yn ystod y 1980au a’r 90au. Yn aml mewn mannau wedi’u hadfer, daethant yn ganolfannau diwylliannol llawr gwlad yng nghanol llawer o sîns lleol, gan ddarparu llety rhad a rennir ynghyd â gwasanaethu fel lleoliadau gigs, a mannau ar gyfer creadigrwydd ac actifiaeth.

Mae’r ysbryd hwnnw’n rhedeg trwy raglen Curch of Noise, sy’n dechrau ddydd Llun 12 Hydref gyda Beirdd Tŷ Pync, noson am ddim wedi’i churadu gan Patrick Jones a fydd hefyd yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa gofrestru a pherfformio.

Mae’r rhaglen yn parhau gyda dangosiadau prynhawn am ddim gan gynnwys y rhaglen ddogfen hynod boblogaidd In Bed with Chris Needham, sy’n dilyn bywyd myfyriwr ifanc yn Lougborough wrth iddynt geisio dechrau band metel trwm ac fe’i canmolwyd gan Kerrang! fel ‘y rhaglen ddogfen orau a wnaed erioed.’

Mae’r digwyddiadau gyda’r nos yn cynnwys ‘Sŵn yn y Brifddinas. Sŵn o’r Capitol’ wedi’i churadu gan J/S ac yn cynnwys perfformiadau cydweithredol gan rai o artistiaid sŵn mwyaf anturus ac arbrofol De Cymru ddydd Mawrth 13 Hydref, y sgwrs Adeiladu eich Iwtopia DIY eich Hun am ddim ddydd Mercher 14 Hydref, a sioe hardcore pedwar band, wedi’i churadu gan Undod Hardcore Collective, yn cynnwys Perp Walk, Raw Nerve, Circumvent a Cursed Body ddydd Iau 15 Hydref.

Bydd Church of Noise hefyd yn dod â phrosiect Stiwdio Bortreadau Julia Gorton i Gaerdydd am y tro cyntaf. Bydd y ffotograffydd pync o’r Unol Daleithiau, a ddechreuodd ei gyrfa yn dogfennu’r sîn gerddoriaeth yng nghanol dinas Efrog Newydd ar ddiwedd y 70au, yn troi ei llygad ar sîn isddiwylliannol gyfoes Caerdydd, gan greu archif barhaol o’r bobl sy’n gwneud diwylliant annibynnol y ddinas yr hyn y mae heddiw, gyda sesiynau galw heibio i unrhyw rai o’r cymunedau hyn a hoffai gael eu llun ar gyfer y prosiect. Bydd yr arddangosfa yn cael ei lansio ddydd Gwener 16 Hydref, gyda pherfformiad gan y band o Dde Cymru, The NaNaz.

Bydd ymwelwyr â Church of Noise, sy’n cael ei gynnal yng nghanolfan gymunedol greadigol ArtHole yn Nhreganna, hefyd yn gallu gweld arddangosfeydd o archif Hanes Cerddoriaeth Caerdydd a The 309 Punk Project.

Mae’r digwyddiad yn rhan o genhadaeth ehangach Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd i arddangos y creadigrwydd, y cymunedau a’r seilwaith ar lawr gwlad sy’n gwneud Caerdydd yn un o ddinasoedd cerddoriaeth mwyaf cyffrous y DU.

Dywedodd Curadur Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, Ruth Cayford: “Un o uchelgeisiau Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yw rhoi’r sbotolau ar y bobl, y gofodau a’r cymunedau sy’n gwneud ein diwylliant cerddoriaeth mor arbennig. Mae Church of Noise yn ymgorffori hynny’n berffaith. Mae’n uchelgeisiol, yn greadigol, yn rhyngwladol o ran agwedd ac wedi’i wreiddio’n gadarn yn yr ysbryd llawr gwlad sydd bob amser wedi bod wrth wraidd hunaniaeth ddiwylliannol Caerdydd.”

Cefnogir Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.

Mae Church of Noise yn cael ei chynnal yn ArtHole, Uned 3 Tŷ Alexandra, 307-315 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Treganna, Caerdydd, CF5 1JD.

Dinas Gerdd Caerdydd