Swyddi: Rheolwr Perthynas (Noson Allan)
Newyddion gan Cyngor Celfyddydau Cymru:
Fel Rheolwr Perthynas (Noson Allan) byddwch yn helpu i ddod â phrofiadau celfyddydol proffesiynol o ansawdd uchel i gymunedau ledled Cymru.
Gan weithio’n agos gyda Phennaeth Ymgysylltu a Chymunedau, byddwch yn:
- Arwain ar gyflwyno cynllun Noson Allan o ddydd i ddydd
- Meithrin perthnasoedd cryf a dibynadwy gyda hyrwyddwyr cymunedol a lleoliadau
- Cefnogi cymunedau i gynnal a mwynhau gweithgareddau celfyddydol proffesiynol
- Bod yn eiriolwr allweddol dros gelfyddydau sy’n cael eu harwain gan y gymuned, gan dreulio amser ar lawr gwlad, mynychu digwyddiadau, a helpu cymunedau i gael y gorau o’r cynllun.
- Ar y cyd â chydweithwyr, byddwch hefyd yn cyfrannu mewnwelediad a dealltwriaeth i gefnogi datblygiad parhaus Noson Allan a gwaith ymgysylltu cymunedol ehangach.
Mae rhagor o wybodaeth i’w gael yn y Swydd Ddisgrifiad.
- Dyddiad cau: 22/05/2026