Neidio i'r prif gynnwys

BEACONS CYMRU & ANTHEM - ATSEINIO 2025

Mae Beacons Cymru ac Anthem yn dod ynghyd unwaith eto yn 2025 i gyflwyno ail rifyn Atseinio – diwrnod sy’n dod â phawb at ei gilydd sydd â rhan yng ngherddoriaeth ieuenctid Cymru.

Ymunwch â ni ar ddydd Mawrth 18fed o Chwefror yn Arena Utilita, Caerdydd ar gyfer dadl sector gyfan, darganfyddiad blaengar manwl a rhwydweithio ar sut i greu Cymru ble gallwn gynnal a datblygu gweithwyr proffesiynol ifanc ac uchelgeisiol yn y diwydiant.

Byddwn yn dod â gweithwyr proffesiynol ynghyd o’r byd addysg, y sector gyhoeddus, gwasanaethau celfyddydol, lleoliadau cerddoriaeth, sefydliadau datblygu a mwy i helpu i lunio dyfodol Cymru.

Mae Atseinio yn ddiwrnod sy’n agored i bawb! Sicrhewch eich lle heddiw am £20 neu os ydych yn berson ifanc sydd â diddordeb e-bostiwch ni ar hello@beacons.cymru a chael lle am ddim yn yr ystafell.

 

Mynnwch eich tocynnau nawr!